Tyfwch gyda Dechrau o Hedyn, sesiwn hyfforddi ddifyr awr o hyd sydd wedi’i chynllunio i feithrin gwybodaeth a hyder wrth helpu plant ifanc i ddarganfod sut mae hadau yn tyfu’n fwyd.
Beth fydd yn cael ei drafod yn y sesiwn?
Trwy weithgareddau rhyngweithiol, mae’r sesiwn yn archwilio’r daith o blannu i’r plât, manteision tyfu bwyd gartref a gwerth plant yn cael eu dwylo’n fudr.
Bydd cyfranogwyr yn cael syniadau syml, ymarferol ar gyfer dechrau arni, gan ddefnyddio adnoddau hygyrch i feithrin chwilfrydedd a chynnwys plant mewn profiadau tyfu ystyrlon.
Byddwn yn cynnal sesiynau yn Saesneg ac yn Gymraeg:
- Saesneg – 17 Tachwedd, 1.00yp-2.00yp
- Cymraeg – 18 Tachwedd 2026, 1.00yp-2.00yp
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Ar-lein











