English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Hyfforddiant Thematig Tîm Taclus

Can diod wedi'i thaflu ar balmant

Ymunwch â’r Tîm Taclus ar gyfer sesiwn hyfforddi ddifyr awr o hyd sydd wedi’i chynllunio i gynyddu gwybodaeth a hyder wrth helpu plant ifanc i ddeall sbwriel a’i effaith ar yr amgylchedd.

Beth fydd yn cael ei drafod yn y sesiwn?

Mae’r sesiwn yn archwilio beth yw sbwriel, o ble mae’n dod, graddfa’r broblem a pham mae pobl o bosibl yn ei ollwng, yn ogystal â ble gall eitemau wedi’u taflu gyrraedd a’r niwed y gallant ei achosi i fywyd gwyllt.

Trwy gemau a chwisiau rhyngweithiol, bydd ymarferwyr yn darganfod ffyrdd syml, sy’n briodol i’w hoedran i sbarduno trafodaeth a chwilfrydedd. Bydd cyfranogwyr hefyd yn archwilio gweithgareddau ac adnoddau y gellir eu haddasu sy’n annog plant i nodi sbwriel, ystyried pam ei fod yn niweidiol a chymryd camau cadarnhaol i ofalu am eu hamgylchedd.

Byddwn yn cynnal sesiynau yn Saesneg ac yn Gymraeg:

  • Saesneg – 5 Tachwedd 2026, 1.00yp-2.00yp
  • Cymraeg – 6 Tachwedd 2026, 1.00yp-2.00yp

Manylion y digwyddiad

DateDyddiad
LocationLleoliad
Ar-lein
Cofrestru eich diddordeb
Rhannu
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13