Darganfyddwch y creaduriaid bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr yn y sesiwn hyfforddi ddifyr Bywyd Gwyllt Bendigedig awr o hyd hon, sydd wedi’i chynllunio i feithrin gwybodaeth a hyder wrth archwilio’r byd naturiol gyda phlant ifanc.
Beth fydd yn cael ei drafod yn y sesiwn?
Mae’r sesiwn yn cyflwyno bwystfilod bach anhygoel, sut mae ecosystemau’n gweithio a’r rôl hanfodol mae pryfed yn ei chwarae wrth gefnogi planhigion, bywyd gwyllt ac amgylcheddau iach.
Trwy ffeithiau diddorol, ymchwiliadau hwyliog a gweithgareddau ymarferol, bydd ymarferwyr yn archwilio sut i ofalu am fwystfilod bach a chreu cynefinoedd croesawgar iddynt.
Bydd cyfranogwyr yn cael syniadau syml, sy’n briodol i’w hoedran ar gyfer sbarduno chwilfrydedd plant, annog arsylwi agos a’u hysbrydoli i werthfawrogi a gofalu am y rhywogaethau anhygoel sy’n rhannu ein byd.
Byddwn yn cynnal sesiynau yn Gymraeg a Saesneg:
- Cymraeg – 11 Tachwedd 2026, 1.00yp-2.00yp
- Saesneg – 12 Tachwedd 2026, 1.00yp-2.00yp
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Ar-lein











