Gallwch ymarfer eich Cymraeg tra’n gwneud rhywbeth anhygoel i’ch amgylchedd lleol!
Ymunwch â ni am weithgaredd codi sbwriel hamddenol a chyfeillgar lle gallwch wella eich sgiliau Cymraeg tra’n helpu i glirio sbwriel morol o arfordir Ynys Môn. P’un ai eich bod yn ddechreuwr llwyr, yn siarad Cymraeg yn hyderus, neu rywle yn y canol, mae croeso i bawb.
Manylion y digwyddiad:
- 11.00am – 1.00pm
- Dydd Iau 19 Tachwedd
- Cwrdd yng Ngwesty’r Boathouse, Traeth Newry, Ffordd y Traeth, Caerbygi, LL65 1YF ///goggle.imagined.positions
Does dim angen cadw lle a bydd yr holl offer yn cael ei ddarparu. Gwisgwch ddillad addas ac esgidiau cadarn!
Bydd cyfle i sgwrsio â chyd-wirfoddolwyr, dysgu geiriau ac ymadroddion Cymraeg defnyddiol, a’u hymarfer wrth i chi gydweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Mae’n gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd a magu hyder yn siarad Cymraeg mewn lleoliad cefnogol.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â gareth.evans@keepwalestidy.cymru neu ffoniwch 07501 985958
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Gwesty’r Boathouse, Traeth Newry, Caergybi







