English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Cynnal a Chadw sy’n Dda i Natur gyda Paul Lamb

Beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd i gynnal a chadw coedwrych gyda natur mewn golwg? A sut gallwn sicrhau bod ein gwrychoedd yn ffynnu, yn hytrach na goroesi yn unig?

Ymunwch â ni am sesiwn Holi ac Ateb byw arbennig gyda’r arwr godi gwrychoedd, Paul Lamb, sydd yn fwy adnabyddus ar Instagram fel y West Country Hedgelayer (@westcountry_hedgelayer).

Byddwn yn sgwrsio am bob peth i wneud â chynnal a chadw sy’n dda i natur, yn archwilio byd bendigedig coedwrych ac yn clywed am brofiad Paul yn gweithio gyda’r cynefinoedd hanfodol hyn.

Ydych chi’n chwilfrydig am gymryd rhan? Bydd Paul hefyd yn rhannu’r ffordd y gallwch gymryd eich camau cyntaf i godi a gwarchod gwrychoedd, yn ogystal â rhoi’r manylion i ni am ei gwrs ar-lein newydd, cyffrous.

P’un ai eich bod yn frwdfrydig am goedwrych neu’n chwilfrydig ynghylch rhoi help llaw i natur, mae rhywbeth i bawb.

Oes cwestiwn gennych i Paul? E-bostiwch ni yn longforest@keepwalestidy.cymru a gallwn ei gyflwyno iddynt yn ystod y sesiwn Holi ac Ateb.

Peidiwch â cholli hwn, mae’n argoeli i fod yn llond gwrych o hwyl!

Gwylio’n fyw

Bydd y weminar yn cael ei ffrydio’n fyw ar dudalen Facebook y Goedwig Hir Drefol, sianel Cadwch Gymru’n Daclus ar YouTube ac yma ar y dudalen digwyddiadau hon, does dim angen cadw lle. Cadwch y dudalen hon ar eich calendr ac ymunwch â ni yn fyw ar y diwrnod.

Dilynwch dudalen y Goedwig Hir Drefol ar Facebook a thanysgrifiwch i sianel YouTube Cadwch Gymru’n Daclus er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych yn ei cholli. Gallwch hefyd droi hysbysiadau YouTube ymlaen trwy glicio ar y gloch.

Ynglŷn â’r Goedwig Hir Drefol

Mae prosiect Y Goedwig Hir Drefol yn diogelu, yn adfer ac yn dathlu coedwrych a choed hynafol ac aeddfed mewn cymunedau trefol ledled Cymru. Trwy ddod â natur yn agosach at y mannau lle mae pobl yn byw, mae’r prosiect yn helpu i gryfhau mannau gwyrdd lleol, cefnogi bioamrywiaeth, gwella lles ac ysbrydoli balchder cymunedol. Mae gweithgareddau yn digwydd ledled Caerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam.

Gwnaed yn bosibl diolch i gefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ac mae’r prosiect hwn yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Coed Cadw, Addysg Oedolion Cymru, Llais y Goedwig ac awdurdodau lleol.

Gyda’n gilydd, rydym yn cyd-ddylunio ac yn cyflwyno rhaglen addysg, hyfforddiant a gweithredu ymarferol ar gadwraeth.

Manylion y digwyddiad

DateDyddiad
LocationLleoliad
Ar-lein
Rhannu
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13