JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Polisi a Gweithdrefnau Canmoliaeth a Chwynion

Cyflwyniad

Rydym bob amser yn hapus i dderbyn canmoliaeth a dymuniadau da gan y rheiny yr ydym yn gweithio gyda nhw a chan aelodau o’r cyhoedd. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod o bryd i’w gilydd y gall fod adegau hefyd lle nad yw ein gwaith bob amser yn bodloni disgwyliadau.

Yn y sefyllfaoedd hyn, rydym yn ymrwymo i ymdrin yn effeithiol ac yn effeithlon ag unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych.

Cysylltu â ni

Os nad ydych yn hapus gydag agwedd ar ein gwaith, gallwch gysylltu â’r Adran Gyfathrebu yn y ffyrdd canlynol, trwy

Ysgrifennu atom yn: Sbarc, Heol Maindy, Caerdydd, CF24 4HQ
Ebostio: info@keepwalestidy.cymru
Llenwi ein ffurflen ar-lein “Cysylltu â Ni
Defnyddio ein cyfryngau cymdeithasol e.e. Facebook a Twitter
Yn yr un modd, gallwch gysylltu â ni uchod i rannu eich bodlonrwydd a chefnogi ein gwaith.

Ymdrin â chwyn

Wrth dderbyn cwyn, byddwn yn ymdrin â’r mater mor gyflym â phosibl, gyda’r nod o gydnabod ac ymateb yn ysgrifenedig i’ch cwyn o fewn deg diwrnod gwaith.

Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb y tro cyntaf, gallwch gyfeirio’n ôl at Gadwch Gymru’n Daclus yn gofyn i ni adolygu’r mater. Cynhelir adolygiad gan aelod o’r Uwch Dîm Rheoli fydd yn ymchwilio i’r mater ymhellach a’ch hysbysu ynghylch y canlyniad. Os byddwch yn dal yn anfodlon â’n hymateb, gallwch olrhain y mater gyda’n Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Yn y pen draw, os byddwch yn dal yn anfodlon gyda’n hymateb yn dilyn y ddau atgyfeiriad hwn, gallwch fynd â’r mater i’r Comisiwn Elusennau neu os yw’r gŵyn yn ymwneud â chodi arian, y Rheoleiddiwr Codi Arian (mae angen i chi wneud hyn o fewn dau fis o’n hymateb i chi). Mae mwy o fanylion am y broses ar gael trwy fynd i www.charitycommission.gov.uk. neu www.fundraisingregulator.org.uk.

Cofnodion o gŵynion

Byddwn yn cadw cofnod o gŵynion i gael eu hadolygu gan bartïon allanol lle bo angen. Bydd y cofnod yn cynnwys manylion y gŵyn, y dyddiad y’i derbyniwyd, manylion ein hymchwiliad a chopi o’r holl gyfathrebu yn ymwneud â’r mater.

Caiff y cofnodion eu cadw am isafswm o 24 mis o’r dyddiad y gwnaed y gŵyn ac eithrio pan fydd cyfraith diogelu data yn gofyn i’r wybodaeth gael ei rhoi y tu hwnt i ddefnydd cyn hyn.

Unioni pethau

Os ydym wedi bod yn anghywir neu os yw ein gwasanaethau wedi syrthio islaw’r safon ddisgwyliedig, ein nod fydd unioni pethau cyn gynted â phosibl.

Cyfrinachedd

Ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, gwneir pob ymdrech i sicrhau eich bod chi a Chadwch Gymru’n Daclus yn cadw cyfrinachedd. Fodd bynnag, gall fod yr amgylchiadau sydd wedi arwain at eich cwyn yn ei wneud yn amhosibl gwneud hynny; gyda phob cwyn yn cael ei barnu yn ôl ei haeddiant ei hun. Os digwydd hyn, byddwn yn eich hysbysu yn unol â hynny.

 

Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13