JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Ardaloedd Di-Sbwriel

Mae Ardaloedd Di-sbwriel yn fannau sydd wedi eu mabwysiadu gan fusnesau a sefydliadau sy’n gwirfoddoli i’w cadw’n lân ac yn groesawgar trwy godi sbwriel yn rheolaidd.

Mae amrywiaeth eang o grwpiau eisoes yn cymryd rhan – o ysgolion a siopau pentref i archfarchnadoedd mawr ac ystadau diwydiannol prysur.

Waeth beth fo maint y sefydliad, mae pob Ardal Ddi-sbwriel yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i amgylchedd a chymuned leol.

Tri o wirfoddolwyr staff yn casglu sbwriel

Cwestiynau Cyffredin

Oes gennych chi ddiddordeb yn cymryd rhan? Cofiwch ddarllen ein cwestiynau cyffredin.

Mae Ardal Ddi-sbwriel yn ardal ddynodedig y mae busnes, ysgol neu sefydliad yn gwneud addewid i’w chadw’n lân trwy godi sbwriel yn rheolaidd.

Gall yr ardaloedd fod o unrhyw faint. Mae rhai sefydliadau yn mabwysiadu ardaloedd bach o amgylch eu heiddo, tra bod eraill yn mabwysiadu mannau gwyrdd mwy, llwybrau troed neu ystadau diwydiannol.

Gall busnesau hefyd ymuno ac ymrwymo i ofalu am ardal fwy gyda’i gilydd.

Byddwn yn eich helpu chi i ddewis ardal sydd yn addas ar gyfer eich gallu.

Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau yn codi sbwriel unwaith y mis, ond mae croeso i chi wneud mwy os gallwch. Y peth pwysicaf yw cysondeb.

Trwy ddod yn Ardal Ddi-sbwriel, rydych yn cytuno i gofnodi eich gweithgareddau gan ddefnyddio ein system hawdd i’w defnyddio, sef eCyfrif Cymru.

Mae’n cymryd munudau yn unig i gyflwyno adroddiad, ond mae pob ychwanegiad yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae eich data yn ein helpu ni i ddatblygu darlun cliriach o’r heriau y mae eich cymunedau’n eu hwynebu ac mae’n pwysleisio’r effaith anhygoel y mae gwirfoddolwyr yn ei chael ledled Cymru.

Os oes gennych offer codi sbwriel yn barod, gwych. Os na, gallwch fenthyg offer am ddim o’ch Hyb Codi Sbwriel agosaf.

Mae gennym hefyd amrywiaeth o offer fforddiadwy i’w brynu yn ein siop.

  • Gall codi sbwriel drawsnewid ardal yn gyflym, o un sy’n edrych fel ardal wedi ei hesgeuluso i ardal y gall pobl ymfalchïo ynddi.
  • Mae mabwysiadu Ardal Ddi-sbwriel yn dangos eich bod yn sefydliad cyfrifol sy’n cymryd taflu sbwriel o ddifrif. Byddwn yn rhoi adnoddau i chi i’ch helpu i gyhoeddi eich statws fel Ardal Ddi-sbwriel.
  • Mae wedi cael ei brofi bod rhoi cyfle i staff wirfoddoli yn gwella cynhyrchiant, morâl, a chyfraddau cadw.
  • Mae cymryd rhan mewn prosiectau y tu allan i’r swyddfa neu’r ysgol yn rhoi cyfle i bobl gysylltu â’i gilydd ar lefel hollol wahanol.

Os hoffech fabwysiadu Ardal Ddi-sbwriel, e-bostiwch info@keepwalestidy.cymru.

Bydd eich swyddog prosiect lleol yn cysylltu i drafod y camau nesaf gyda chi.

Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13