JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Pecyn Cymorth Ymgyrch

Dewch i ni gydweithio i ddileu sbwriel a gwastraff!

Dros yr ydychig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi creu a phrofi deunyddiau ymgyrchu ar gyfer amrywiaeth o faterion sbwriel – o faw cŵn i dipio anghyfreithlon, i smygu a sbwriel ar ochr y ffordd. Nawr rydym eisiau i gymunedau gymryd rhan a’n helpu ni i roi’r gair ar led.

Mae’r holl ddeunyddiau ar gael i gymunedau eu haddasu, eu lawrlwytho a’u hargraffu o’n gwefan Pecyn Cymorth Ymgyrch arbennig iawn, mae popeth yn rhad ac am ddim. Y cyfan yr ydym yn ei ofyn yw eich bod yn defnyddio posteri yn ddiogel ac yn gyfreithlon.

Enghraifft o boster ymgyrch

Sut i ddefnyddio’r Pecyn Cymorth Ymgyrch

Mae’n hawdd dod o hyd i’r deunyddiau sydd eu hangen arnoch, ewch i’r Pecyn Cymorth Ymgyrch a hidlwch y canlyniadau gan ddefnyddio’r opsiynau ar yr ochr chwith.

Gallwch hidlo yn ôl:

1. Math o ddeunyddiau: ydych chi’n chwilio am bosteri a graffeg sy’n barod i’w defnyddio? Neu a hoffech chi addasu deunyddiau gyda’ch logo, eich lluniau neu eich lleoliad eich hun?

2. Casgliad: dewiswch y mater sbwriel yr hoffech fynd i’r afael ag ef.

3. Iaith: dewiswch Cymraeg yn unig, Saesneg yn unig neu cwbl ddwyieithog.

4. Cais: ydych chi’n chwilio am lyfrynnau, posteri, arwyddion neu negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol? Maent i gyd ar gael am ddim.

Byddem wrth ein bodd yn clywed sut yr ydych wedi defnyddio ein pecyn cymorth a’r hyn yr ydych wedi ei ddysgu! Rhowch wybod i ni ar y cyfryngau cymdeithasol. Tagiwch ni a defnyddiwch #CaruCymru neu’r ebost comms@keepwalestidy.cymru

Ewch i wefan Pecyn Cymorth Ymgyrch

Dysgwch mwy am y problemau

I wneud gwahaniaeth, mae angen i chi ddeall y materion. Dysgwch am yr ymchwil ddiweddaraf ac arfer da o Gymru a thu hwnt.

Polisi ac ymchwil
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13