JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Adeiladu Byd Diwastraff

Rydym yn byw mewn byd sydd yn aml yn cael ei dylanwadu gan ‘pethau’. Rydym yn cael ein hannog i brynu pethau newydd, eu defnyddio, eu taflu ac yna ddechrau o’r dechrau eto. 

Pe byddem yn cymryd ysbrydoliaeth gan natur, byddwn yn sicrhau ein bod yn cynllunio pethau a phrosesau i beidio ag achosi niwed i’n hamgylchedd, sicrhau eu bod yn para’n hirach, eu bod yn hawdd eu trwsio ac yn syml i’w troi’n rhywbeth arall pan fyddwn wedi gorffen â nhw. 

Ar gyfer yr her hon, gallwch ystyried:  

  • Lleihau cynhyrchion un tro 
  • Gwastraff bwyd o’r fferm i’r fforc 
  • Effaith dillad a thecstilau 
  • Yn dilyn yr hierarchaeth wastraff i leihau, ailddefnyddio ac atgyweirio cyn i ni ailgylchu 
  • Dod o hyd i ddefnydd newydd ar gyfer cynnyrch gwastraff 
  • Pa mor adnewyddadwy yw’r deunyddiau y mae ein ‘pethau’n’ cael eu gwneud ohonynt 

Mae ceisiadau ar gyfer Her Hinsawdd Cymru 2026 bellach wedi cau.

Nôl i Her Hinsawdd Cymru
Wyneb y cefnfor gyda thonnau cymedrol o dan awyr las golau.

Gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer yr her hon

Bydd angen i chi ymdrin â’r pwyntiau canlynol yn eich fideo.  

  • Cyflwyno eich ysgol a’ch Earthshot a pham y gwnaethoch ddewis yr  her.  
  • Rhannu eich ateb yn yr ysgol – beth ydych chi wedi’i wneud neu’n bwriadu ei wneud a pham?  
  • Sut mae wedi gwneud gwahaniaeth neu sut y byddwch chi’n gwybod a yw eich syniad wedi gwneud gwahaniaeth?  
  • Rhannu eich datrysiad arloesol fyd-eang, yr ymchwil y tu ôl iddo a pha effaith y byddech chi’n gobeithio y gall ei chael. 
  • Unrhyw wybodaeth arall yr ydych am ei chynnwys sy’n berthnasol i’r beirniaid.  

Cofiwch fod yn greadigol gyda’ch fideo a cheisio ‘gwerthu’ eich syniad!  

Dylech chi ffilmio fideos mewn modd tirwedd ac ni ddylai’r fideos fod yn hwy na thri munud. 

Mae croeso i geisiadau yn Gymraeg a Saesneg, a gallwn dderbyn hyd at bum cais o bob ysgol.

Gwyliwch enillydd a chystadleuwyr y rownd derfynol llynedd a chael eich ysbrydoli

Enillydd: Pennar Community School Dysgwch Mwy Ymgeisydd Terfynol: QE High School Dysgwch Mwy Ymgeisydd Terfynol: Tynewydd Primary School Dysgwch Mwy
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13