Bethyg beth sydd angen am ddim
Mae ein ‘benthycwyr’ i gyd yn cael canllawiau iechyd a diogelwch ac mae’n rhaid iddynt lenwi asesiad risg cyflym a llofnodi cytundeb llogi offer codi sbwriel.
Mae’n rhaid i chi hefyd ddychwelyd yr eitemau sydd wedi cael eu llogi erbyn y dyddiad y cytunwyd arno yn eu cyflwr gwreiddiol. Bydd angen talu am unrhyw niwed neu golledion ac mae disgwyl i’r benthycwyr hysbysu’r hyb ynghylch unrhyw ladrad, colled neu niwed cyn gynted â phosibl i leihau’r perygl o amharu ar fenthycwyr eraill.
Dewch yn Hyb Codi Sbwriel
Allai eich sefydliad chi ymuno â ein rhwydwaith o Hybiau Codi Sbwriel?
Gwnewch yn siwr bod gan eich cymuned yr holl offer sydd ei angen i gynnal digwyddiad glanhau diogel mewn pedwar cam hawdd.
- Cysylltwch â chofrestrwch gyda’ch swyddog prosiect lleol.
- Cwblhewch ein hyfforddiant Hyb cyflym.
- Derbyniwch eich pecyn canllaw a’ch cyfarpar codi sbwriel.
- Codwch eich llais am eich Hwb a helpu eich cymuned i gadw eu hardal yn daclus.







