Sefydlu grŵp cymunedol newydd
Ond yn dechrau arni? Yn awyddus i lanhau’n rheolaidd neu ofalu am ofod gwyrdd yn yr hirdymor? Gallwn ni helpu! Cliciwch ar y blychau isod i ddysgu mwy am y sylfeini.
Awyddus i gynnal digwyddiadau glanhau rheolaidd neu ofalu am fan gwyrdd yn yr hirdymor? Rydym yn argymell dod yn grŵp cymunedol ffurfiol.
Darganfod mwy
Gallwch gael gafael ar wybodaeth, templedi ac adnoddau eraill i’ch cadw chi a'ch gwirfoddolwyr yn ddiogel.
Darganfod mwyOs oes gennych ddiddordeb yn rhannu eich profiadau a’ch syniadau gyda gwirfoddolwyr o’r un anian, cofiwch ymuno â grŵp Facebook Cymuned Cadwch Gymru’n Daclus.
Dewch yn aelodCofnodi eich canlyniadau ar eCyfrif Cymru
Rydym eisiau i lywodraethau a busnesau ddeall y materion y mae ein cymunedau’n eu hwynebu, a’r effaith sylweddol y mae gwirfoddolwyr yn ei chael ar draws y wlad.
Y ffordd orau o ddangos hyn yw gyda data – sy’n dangos yn union faint o bobl sy’n cymryd rhan, sawl awr sy’n cael ei neilltuo i ofalu am yr amgylchedd, yr amrywiaeth o weithgareddau sy’n digwydd, a beth sydd yn cael ei ganfod ar ein strydoedd, ein traethau, ac yn ein parciau.
Dyma pam y mae angen i bawb rannu’r hyn y maent wedi bod yn ei wneud trwy eCyfrif Cymru.
Mynd i eCyfrif Cymru
Archwilio ein Map Effaith Gymunedol
Ewch i’r Map Effaith Gymunedol i archwilio ac allforio eich data. Mae’r map yn cynnwys gweithgareddau a gofnodwyd gan bawb ers 2018.
Gallwch ddefnyddio’r data a gasglwyd i gefnogi eich cais eich hun am grant, neu i gael hanes cyson a dibynadwy o’ch gweithgaredd i’w rannu gyda’ch cymuned leol, gwneuthurwyr polisïau a chynllunwyr.
Ewch i'r map
Cyhoeddusrwydd
Ni ellir amcangyfrif grym cyhoeddusrwydd yn rhy isel. Mae’n bwysig i forâl eich grŵp, nid ydych byth yn gwybod pwy allai fod yn gwrando, yn darllen, yn gwylio. Gallai hyn fod yn wirfoddolwyr, noddwyr, codwyr arian neu wneuthurwyr polisi posibl – mae’r rhestr yn hirfaith!
Rydym yn helpu i gysylltu gwirfoddolwyr ifanc â grwpiau lleol. Nid oes ond angen i chi lenwi ffurflen fer i sicrhau bod eich grŵp yn ymddangos ar ein map.
Grwpiau cymunedolHyrwyddwch eich gweithgareddau, dathlwch eich llwyddiannau a denwch wirfoddolwyr newydd.
Darganfod mwy
Rhowch hwb i’ch codi arian
Mae sawl ffordd o ariannu grŵp cymunedol – os byddwch yn chwilio ar-lein, gallai’r syniadau a’r cyfleoedd eich llethu!
Dyma pam yr ydym yn dod â chyngor hanfodol, enghreifftiau perthnasol, a’r dolenni mwyaf defnyddiol ynghyd ar gyfer grwpiau cymunedol yng Nghymru.
Dywgu mwyGweminarau ar alw
Creu Incwm ar gyfer Grwpiau Cymunedol
Ymunodd FAN Alliance a Grŵp Afonydd Caerdydd â ni, gan rannu ffyrdd llwyddiannus y maent wedi creu incwm trwy eu gweithgareddau.
Gwyliwch ar Vimeo nawr
Awgrymiadau a Syniadau ar gyfer Cyfryngau Cymdeithasol
Daliwch i fyny i gael syniadau ac awgrymiadau ar gyfer creu cynnwys cymhellol, datblygu cymuned a mesur eich canlyniadau.
Gwyliwch ar Vimeo nawr
Recriwtio a Chadw Gwirfoddolwyr
Daliwch i fyny â’n gweminar i ddysgu’r holl strategaethau diweddaraf ar gyfer recriwtio a chadw gwirfoddolwyr amgylcheddol.
Gwyliwch ar Vimeo nawr
Cwrs Gloywi Iechyd a Diogelwch
Clywch gan Simon Preddy, ein Uwch Reolwr Gweithrediadau, sydd wedi gofalu am iechyd a diogelwch yn Cadwch Gymru’n Daclus am bron i 20 mlynedd.
Gwyliwch ar Vimeo nawr
Cefnogi Gweithredu Cymunedol
Daliwch i fyny â’n gweminar i ganfod mwy am Hybiau Codi Sbwriel, sut rydym yn helpu grwpiau newydd i ffurfio, a sut gallwch gael gafael ar adnoddau digidol am ddim.
Gwyliwch ar Vimeo nawr
Cyflwyniad i Gredydau Amser
Rydym yn ymuno â Tempo Time Credits, elusen sydd yn helpu pobl o bob cefndir i gymryd rhan mewn gwirfoddoli ac yn eu gwobrwyo am eu cyfraniadau anhygoel.
Gwyliwch ar Vimeo nawr
Dysgu am Newid Ymddygiad
Sut gallwn annog y bobl hyn i newid eu hymddygiad a gwneud y peth iawn? Daliwch i fyny â’n gweminar arbennig i gael yr ateb!
Gwyliwch ar Vimeo nawr
Deddfwriaeth ar gyfer Atal Sbwriel
Gwyliwch recordiad gweminar hon i ganfod y prif gamau y gall llywodraethau eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion penodol hyn.
Gwyliwch ar Vimeo nawr
Y Stori y Tu Ôl i Recycle Môr
Cael cipolwg y tu ôl i’r llenni ar sut y dechreuodd Recycle Môr; yr angerdd gan bysgotwyr lleol a’i ffurfiodd hwy, a sut y tyfodd syniad bach yn llwyddiant llawer mwy nag yr oedd unrhyw un wedi’i ddychmygu
Gwyliwch ar Vimeo nawr
Polisi wedi ei arwain gan Dystiolaeth:
Archwiliodd y sesiwn sut mae mewnwelediadau data yn llywio polisi, gan dynnu sylw at offer Cadwch Gymru’n Daclus a rôl hanfodol gwirfoddolwyr a gwyddonwyr dinasyddion.
Gwyliwch ar Vimeo nawr







