JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Rhannwch eich canlyniadau

Rydym eisiau i lywodraethau a busnesau ddeall y materion y mae ein cymunedau’n eu hwynebu, a’r effaith sylweddol y mae gwirfoddolwyr yn ei chael ar draws y wlad.

Y ffordd orau o ddangos hyn yw gyda data – sy’n dangos yn union faint o bobl sy’n cymryd rhan, sawl awr sy’n cael ei neilltuo i ofalu am yr amgylchedd, yr amrywiaeth o weithgareddau sy’n digwydd, a beth sydd yn cael ei ganfod ar ein strydoedd, ein traethau, ac yn ein parciau.

Dyma pam y mae angen i bawb rannu’r hyn y maent wedi bod yn ei wneud trwy eCyfrif Cymru. Helpwch ni i ddatblygu darlun ar draws Cymru o wirfoddoli amgylcheddol.

Cofnodi gweithgaredd

eCyfrif Cymru: Cwestiynau cyffredinol

Mae eCyfrif Cymru yn ffurflen hawdd i’w defnyddio ar ein gwefan.

Nid oes angen unrhyw fanylion cyfrif na mewngofnodi; mae’r ffurflen yn cymryd dwy funud i’w llenwi, a gellir ei llenwi ar gyfrifiadur neu ddyfais symudol, dim ond cysylltiad â’r rhyngrwyd sydd ei angen arnoch.

Mae wedi cael ei ddatblygu a’i brofi ar y cyd â gwirfoddolwyr i helpu i sicrhau bod y broses mor gyflym a syml â phosibl. Bydd llai o amser yn adrodd, gobeithio, yn golygu y gallwch dreulio mwy o amser yn gofalu am eich amgylchedd lleol.

Rydym yn defnyddio data eCyfrif Cymru i arwain ein gwaith ac i ddangos effaith gwirfoddoli i lywodraethau a busnesau.

Mae ein Map Effaith Gymunedol yn gadael i chi weld y gweithgareddau sydd wedi cael eu cofnodi gan Arwyr Sbwriel, grwpiau cymunedol, Hybiau Codi Sbwriel, Ardaloedd Di-sbwriel a phartneriaid eraill mewn amser real.

Byddwn hefyd yn dathlu canlyniadau cyffredinol eCyfrif Cymru yn rheolaidd ar ein sianeli cymdeithasol ac yn y cyfryngau.

Ewch i’r Map Effaith Gymunedol i archwilio ac allforio eich data. Mae’r map yn cynnwys gweithgareddau a gofnodwyd gan bawb ers 2018.

Gallwch ddefnyddio’r data a gasglwyd i gefnogi eich cais eich hun am grant, neu i gael hanes cyson a dibynadwy o’ch gweithgaredd i’w rannu gyda’ch cymuned leol, gwneuthurwyr polisïau a chynllunwyr

Nid yw Epicollect ar gael mwyach. Gwnaed y newid ar 1 Gorffennaf 2024 ac rydym bellach yn annog pawb i ddefnyddio eCyfrif Cymru.

Rydym wir yn credu bod eCyfrif yn llawer cyflymach a haws i’w ddefnyddio.

Peidiwch â phoeni, nid yw’r data y gwnaethoch ei gyflwyno i Epicollect wedi cael ei ddileu. Mae eich data i gyd nawr ar gael ar y Map Effaith Gymunedol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â’n Tîm Data yn data@keepwalestidy.cymru 

Rydym yn hyderus bod y system yn hawdd i’w defnyddio — ond os yw rhywbeth yn aneglur neu os ydych yn dod ar draws problem, mae ein Tîm Data yma i helpu.

Peidiwch ag oedi cyn cysylltu! Anfonwch e-bost at data@keepwalestidy.cymru

Cael Mynediad i’r Hyb Cymorth i Wirfoddolwyr

Siop un stop i wirfoddolwyr yn llawn deunyddiau defnyddiol, dolenni a chyngor.

Mynd i'r Hyb
Ymunwch â’n Grŵp Facebook

Ymunwch â’n grŵp Facebook i rannu syniadau ac arfer gorau gydag arwyr gwirfoddoli eraill!

Darganfod mwy
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13