Ar hyn o bryd, mae gan y byd broblem “Cymryd-Gwneud-Gwastraffu”. Rydym yn gwneud pethau, yn eu defnyddio unwaith, ac yn eu taflu i ffwrdd.
Ond beth os na fyddai sbwriel yn bodoli? Croeso i’r Economi Gylchol—lle mae pethau’n cael eu hailddefnyddio, eu trwsio, neu eu hail-wneud yn rhywbeth newydd, a lle rydym yn cymryd dim ond yr hyn sydd ei angen arnom!
Ymunwch â’n gweithdy rhyngweithiol cyffrous i:
- Darganfod pam mae mabwysiadu dull “cylchol” yn cadw ein planed yn hapus ac yn iach, a pha mor hawdd yw hynny i’w wneud yn yr ysgol
- Clywed straeon cyffrous gan ysgolion yng Nghymru.
- Ddyfeisio eich syniadau gwych eich hun i newid y dyfodol!
Dyma gyfle gwych i archwilio pam mae mynd i’r afael â materion gwastraff mor bwysig, ac i gael eich ysbrydoli i weithredu yn eich ysgol!
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Ar-lein







