English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Cyflwyniad i Archifo Digidol gyda Chasgliad y Werin Cymru

Eisiau helpu i warchod hanes lleol? Ymunwch â ni am sesiwn hyfforddi awr o hyd am ddim, yn archwilio sut y gallwch gymryd rhan yn digideiddio prosiect y Goedwig Hir Drefol.

Bydd y sesiwn yn rhoi cyflwyniad i chi o’r ffordd y gallwn gofnodi a gwarchod gwybodaeth am y prosiect ledled Caerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam.

Byddwn yn canolbwyntio ar gofnodi coedwrych trefol, arddulliau lleol a phrofiadau gwirfoddolwyr, gan helpu i ddweud eu straeon a sicrhau eu bod ar gael ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Beth fydd y sesiwn yn ei gynnwys?

Mae’r hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Casgliad y Werin Cymru, sy’n darparu cymorth wedi ei deilwra am ddim trwy gydol y broses archifo. Byddwch yn cael cyflwyniad i’r canlynol:

  • Digideiddio a chefnogi etifeddiaeth leol
  • Cyfleu gwybodaeth am brosiect y Goedwig Hir Drefol
  • Cofnodi ffotograffau, straeon a phrofiadau gwirfoddolwyr
  • Hanfodion gwarchod cofnodion digidol ar gyfer y dyfodol

Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol, dim ond diddordeb mewn etifeddiaeth, natur, hanes lleol neu ddysgu sgiliau newydd.

Bydd y sesiwn yn digwydd ar-lein trwy Microsoft Teams. Cadwch le er mwyn cael y ddolen ac ymunwch â ni.

Bydd y sesiwn yn cael ei chyflwyno yn Saesneg, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau yn Gymraeg, mae croeso i chi eu hanfon nhw atom ni ymlaen llaw.

Ynglŷn â’r Goedwig Hir Drefol

Mae prosiect y Goedwig Hir Drefol yn diogelu, adfer a dathlu coedwrych a choed hynafol ac aeddfed mewn cymunedau trefol ledled Cymru. Trwy ddod â natur yn agosach at y mannau lle mae pobl yn byw, mae’r prosiect yn helpu i gryfhau mannau gwyrdd lleol, cefnogi bioamrywiaeth, gwella lles ac ysbrydoli balchder cymunedol. Mae gweithgareddau yn digwydd ledled Caerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam.

Mae’r prosiect, a wnaed yn bosibl diolch i gymorth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Choed Cadw, Addysg Oedolion Cymru, Llais y Goedwig ac awdurdodau lleol.

Manylion y digwyddiad

DateDyddiad
LocationLleoliad
Ar-lein
Cofrestrwch eich diddordeb
Rhannu
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13