Mae buddion pellgyrhaeddol i amgylchedd lleol o ansawdd da, gan effeithio ar iechyd a lles, twf economaidd, ymddygiad gwrthgymdeithasol a hyd yn oed democratiaeth leol.
Yn anffodus, mae amgylchedd lleol o ansawdd gwael yn broblem wirioneddol a pharhaus i sawl cymuned yng Nghymru, diolch i leiafrif bach sydd ddim yn gweithredu’n gyfrifol.
Sut gallwn annog y bobl hyn i newid eu hymddygiad a gwneud y peth iawn? Daliwch i fyny â’n gweminar arbennig i gael yr ateb!
Arweiniwyd y sesiwn hon gan Jemma Bere, ein Rheolwr Polisi ac Ymchwil ac ymarferydd newid ymddygiad cymwys. Aeth Jemma drwy’r hyn yr ydym yn ei olygu wrth newid ymddygiad, amlinellodd y damcaniaethau allweddol, a rhoi hanes byr o’r ddisgyblaeth a’r moeseg sydd yn gysylltiedig. Arddangosodd hefyd ymgyrchoedd newid ymddygiad llwyddiannus ar draws y byd.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Ar-lein







