Dewch ag Eco-Bwyllgor eich ysgol ynghyd am ddiwrnod o greadigrwydd, gweithredu ac arloesedd.
Ymunwch â’n Eco-Bwyllgor Cenedlaethol eleni am gyfle i rannu syniadau rhwng ysgolion, cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog, a chael rhywfaint o ysbrydoliaeth!
Mae gwaith wedi dechrau ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur cyntaf Cymru, a fydd yn ysbrydoli digwyddiadau eleni. Byddant yn llawn gweithgareddau ymarferol ac atebion arloesol. Byddwn yn archwilio syniadau adeiladol ac yn grymuso’ch pwyllgor i helpu’r blaned, nawr ac ar gyfer y dyfodol. Byddwch yn gadael gyda syniadau newydd a synnwyr o’r hyn sy’n bosibl!
Gwahoddir chi i ddod â hyd at bedwar dysgwr o’ch Eco-Bwyllgor i gynrychioli’ch ysgol.
Dyddiadau a lleoliadau:
- 20 Hydref – Gardd Fotaneg Genedlaethol, Sir Gaerfyrddin
- 20 Hydref – Tredegar, Blaenau Gwent
- 21 Hydref – Clwb Rygbi Pwllheli, Gwynedd
Amser:
- 10:00 – 14:00 (Cyrraedd o 9:30)
Caiff lleoliadau a chyfarwyddiadau eu cadarnhau yn eich gwahoddiad drwy e-bost. Bydd cofrestru ar gyfer y digwyddiadau yn cau ar 14 Hydref.
Derbynnir cofrestru ar sail y cyntaf i’r felin.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Lleoliadau lluosog







