Nid yw’n arddio fel arfer bellach. Gyda thywydd eithafol, yn cynnwys y gwres llethol rydym wedi ei brofi yr haf hwn, mae garddwyr yn wynebu heriau newydd.
Yn y weminar hon sydd am ddim, bydd Kim Stoddart, yr awdur a’r newyddiadurwr penigamp, yn rhannu technegau ymarferol, organig, i helpu gerddi i ffynnu mewn amodau heriol a dod yn fwy gwydn ar gyfer y dyfodol.
Mae Kim yn cynnal gardd gymunedol yn Llanbedr Pont Steffan ar gyfer Barcud yn Creuddyn gan ddefnyddio dulliau sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd heb lawer o waith cynnal. Yn y sesiwn hon, bydd hi’n cynnwys:
- Gofal eginblanhigion yn gynnar yn y flwyddyn a hau olynol.
- Datblygu pridd iach trwy arddio heb gloddio a chompostio.
- Taenu a diogelu pridd gyda gorchudd daear.
- Dewis cnydau gwydn nad oes angen llawer o waith cynnal arnynt.
- Technegau arbed dŵr a sut i wneud i ddyfrio gyfrif.
- Datblygu cadernid mewn planhigion trwy osgoi gor-fwydo.
- Rheoli plâu yn naturiol a denu ysglyfaethwyr naturiol.
- Gweithio gyda cherrig a graean.
- Plannu blodau a chnydau bwytadwy yn gymysg
- Arbed hadau ar gyfer gwytnwch hirdymor
- Cnydau a phlanhigion y gellir eu tyfu yn nes ymlaen yn y tymor
P’un ai eich bod yn newydd i arddio neu eisiau addasu i’n hinsawdd newidiol, bydd y weminar hon yn llawn awgrymiadau i helpu i arbed amser ac arian a chyngor ymarferol i helpu eich gardd i ffynnu.
Gwylio’n fyw!
Bydd y weminar yn cael ei ffrydio’n fyw ar y dudalen hon, tudalen Facebook Baner Werdd Cymru a YouTube Cadwch Gymru’n Daclus, felly does dim angen cadw lle. Cadwch y dudalen hon ar eich calendr ac ymunwch â ni yn fyw ar y diwrnod.
Dilynwch dudalen Baner Werdd Cymru a thanysgrifiwch i’n sianel YouTube i wneud yn siŵr nad ydych yn ei cholli. Trowch yr hysbysiadau ymlaen (cliciwch y gloch ar YouTube) i gael gwybod pryd y byddwn yn mynd yn fyw ar gyfer y weminar hon a rhai yn y dyfodol.
Ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae hyn yn rhan o gyfres o weminarau am ddim wedi eu cynllunio i gefnogi grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr amgylcheddol yng Nghymru.
Noder, bydd y Weminar Gerddi sy’n Gallu Gwrthsefyll yr Hinsawdd yn cael ei chyflwyno yn Saesneg. Fodd bynnag, bydd trawsgrifiad Cymraeg ar gael ar gais ar ôl y digwyddiad.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Ar-lein







