English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Hyfforddiant Rhestr Coed Hynafol – Wrecsam

Hyfforddiant Rhestr Coed Hynafol – Wrecsam

Ymunwch â ni am ddiwrnod o hyfforddiant ymarferol yn archwilio coed hynafol ac aeddfed yn Erddig, Wrecsam!

Darganfyddwch beth sy’n gwneud coed hynafol ac aeddfed mor arbennig a dysgwch sut y gallwch helpu i’w diogelu trwy gyfrannu at y Rhestr Coed Hynafol (RhCH).

Wedi ei chyflwyno mewn partneriaeth â Choed Cadw, bydd y sesiwn hyfforddiant ymarferol hon yn rhoi cyflwyniad i chi i fyd rhyfeddol coed hynafol ac aeddfed, eu pwysigrwydd i fywyd gwyllt, bioamrywiaeth, treftadaeth a’n tirweddau, a sut i’w hadnabod a’u cofnodi.

Beth i’w ddisgwyl

Bydd y diwrnod yn cyfuno dysgu o dan do gyda gwaith maes ymarferol, gan roi cyfle i chi ddatblygu eich gwybodaeth a rhoi eich sgiliau newydd ar waith.

Yn ystod y sesiwn, byddwch yn dysgu sut i:

  • Adnabod coed hynafol ac aeddfed a nodi eu prif nodweddion.
  • Deall pam mae’r coed hyn mor bwysig i fywyd gwyllt, bioamrywiaeth a threftadaeth.
  • Nodi potensial coed hynafol ac aeddfed yn eich ardal leol.
  • Asesu a chofnodi coed gan ddefnyddio’r Rhestr Coed Hynafol.

Yn y prynhawn, byddwn yn mynd allan i’r awyr agored i archwilio ystâd hyfryd Erddig, gan ymweld â choed hynafol ac aeddfed anhygoel ac ymarfer sut i’w hasesu a’u cofnodi.

P’un ai eich bod yn ddechreuwr llwyr neu â rhywfaint o brofiad yn barod, bydd y sesiwn gyfeillgar, llawn gwybodaeth hon yn rhoi’r sgiliau a’r hyder i chi gyfrannu at y Rhestr Coed Hynafol a’n helpu i greu darlun gwell o’r coed anhygoel hyn ledled Cymru.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Bydd te a choffi’n cael ei ddarparu, ond dewch â phecyn cinio. Bydd y prynhawn yn cynnwys cerdded o gwmpas ystâd Erddig, felly gwisgwch esgidiau addas a dewch â dillad sy’n dal dŵr rhag ofn y bydd hi’n wlyb.

Cadw lle

Mae’r lleoedd wedi eu cyfyngu i 12 o gyfranogwyr, felly argymhellir cadw lle yn gynnar. Sicrhewch eich lle ac ymuno â ni am ddiwrnod o ddarganfod a chofnodi rhai o goed hynafol ac aeddfed anhygoel Cymru.

Ynglŷn â’r Goedwig Hir Drefol

Mae prosiect y Goedwig Hir Drefol yn diogelu, adfer a dathlu coedwrych a choed hynafol ac aeddfed mewn cymunedau trefol ledled Cymru. Trwy ddod â natur yn agosach at y mannau lle mae pobl yn byw, mae’r prosiect yn helpu i gryfhau mannau gwyrdd lleol, cefnogi bioamrywiaeth, gwella lles ac ysbrydoli balchder cymunedol. Mae gweithgareddau yn digwydd ledled Caerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam.

Mae’r prosiect, a wnaed yn bosibl diolch i gymorth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Choed Cadw, Addysg Oedolion Cymru, Llais y Goedwig ac awdurdodau lleol.

Manylion y digwyddiad

DateDyddiad
LocationLleoliad
Canolfan Awyr Agored Felin Puleston, Erddig, Wrecsam, LL13 7RF
Cofrestrwch eich diddordeb
Rhannu
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13