Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn ragarweiniol ar-lein ar y Rhestr Coed Hynafol, a gynhelir drwy Microsoft Teams nos Fercher 2 Medi, 18.00–19.00, a gweld sut gallwch chi helpu i gofnodi coed hynod a choed hynafol yn eich ardal leol.
Byddwch yn dysgu rhagor am bwysigrwydd coed hynafol a choed hynod, sut mae’r Rhestr Coed Hynafol yn gweithio, a sut gallwch chi gymryd rhan yn y gwaith o gofnodi’r coed arbennig hyn yn eich cymdogaeth leol.
Gyda’n gilydd, gallwn helpu i warchod y coed unigryw hyn am genedlaethau i ddod.
Llenwch y ffurflen i gadw eich lle a chael y ddolen ymuno â Microsoft Teams.
Bydd y sesiwn blasu hon yn cael ei darparu gan Coed Cadw fel rhan o Brosiect y Goedwig Hir Drefol, sy’n gwarchod, yn adfer ac yn dathlu gwrychoedd a choed hynafol a choed hynod ledled Cymru. Drwy wirfoddoli, hyfforddiant a digwyddiadau cymunedol, mae’r prosiect yn gweithio gyda phobl leol i helpu i warchod a gwella’r cynefinoedd pwysig hyn ar gyfer bywyd gwyllt a chenedlaethau’r dyfodol.
Diolch i gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae’r prosiect yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Coed Cadw, Addysg Oedolion Cymru, Llais y Goedwig ac awdurdodau lleol. Gyda’n gilydd, rydym yn cyd-ddylunio ac yn cyflwyno rhaglen o addysg, hyfforddiant a chamau cadwraeth ymarferol.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Ar-lein







