English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Tacluso Caerdydd 2026

Mae Tacluso Caerdydd yn ôl!

Am bythefnos yr hydref hwn, bydd cymunedau ledled y brifddinas yn dod ynghyd unwaith eto ar gyfer Tacluso Caerdydd 2026 – ymgyrch wirfoddol fawr, gyfeillgar lle mae pobl ledled Caerdydd yn ymuno i lanhau eu hardaloedd lleol a gwneud gwahaniaeth gweladwy.

Arweinir y digwyddiad gan Cadwch Gymru’n Daclus, Love Where You Live a Grŵp Afonydd Caerdydd.

 

Manylion y digwyddiad

DateDyddiad
LocationLleoliad
Lleoliadau dros Cardiff
Rhannu

Drwy gydol yr ymgyrch, gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau casglu sbwriel, gan gynnwys:

  • Ymuno â chasgliad sbwriel trefnedig (gweler y map isod)
  • Benthyg offer o un o’n Hybiau Codi Sbwriel
  • Neu drefnu casgliad sbwriel eich hun gyda ffrindiau, yn eich gweithle neu gyda’r teulu

Mae’n gyfle gwych i gwrdd â gwirfoddolwyr o’r un anian a helpu i wneud gwahaniaeth.

Rydym yn anelu at gynnal digwyddiadau ym mhob ward ledled Caerdydd, gan ddod â phobl ynghyd gyda nod cyffredin: dinas lanach a gwyrddach.

Pwy all gymryd rhan?

Mae croeso i bawb gymryd rhan, boed yn grŵp cymunedol, ysgol, busnes, Hwb Casglu Sbwriel, teulu neu unigolyn sydd am helpu eu cymuned.

Mae cymryd rhan yn helpu i wella eich ardal leol, gan ei gwneud yn lanach, yn fwy diogel ac yn fwy croesawgar. Wedi’r cyfan, mae strydoedd glân yn annog ymddygiadau cadarnhaol ac yn meithrin ymdeimlad o falchder o fewn cymunedau.

Lleoliadau'r digwyddiadau

Rhestr o ddigwyddiadau

Medi 17

  • DIWEDDARIAD AMSER Dŵr Cymru a Cardiff Rivers Group yn Longwood Drive / Cored Radur, rhwng 14:00 a 16:00.

Medi 18

  • Cardiff Rivers Group yn Parc Hamadryad rhwng 09:45 a 12:00
  • Cardiff Refugee Council ar Broadway, Sblot rhwng 14:00 a 15:00

Medi 19

  • All Nations Church yn Rainbow House, Llaneirwg rhwng 10:00 a 12:00
  • Cardiff Rivers Group yn Forest Farm rhwng 09:45 a 12:00
  • Keep Roath Tidy yng Ngerddi Mackintosh, Stryd Keppoch rhwng 10:30 a 11:30

Medi 20

  • Keep Canton Tidy yn Castle Bingo, Cowbridge Road, rhwng 10:00 ac 11:00
  • Keep Canton Tidy yn Cafe Ffloc, Cowbridge Road, rhwng 12:00 a 13:00
  • Keep Canton Tidy yn Cafe Bloc, Cowbridge Road rhwng 14:00 a 15:00
  • Friends of Nant Fawr wrth y fynedfa i Goetiroedd Nant Fawr, oddi ar Heol Llandennis rhwng 10:00 a 12:00

Medi 21

  • Wales and West Housing ym Mharc Plant Catherine Drive, Tongwynlais rhwng 11:00 a 13:00

Medi 22

  • Local Action Team (Cyngor Caerdydd), Heol Crumlin, Llaneirwg, rhwng 10:00 ac 11:00

Medi 23

  • Cardiff Rivers Group yng Nghanolfan Hamdden Tyllgoed rhwng 09:45 a 12:00
  • Pentwyn Litter Hitters wrth Cyffordd Bryn y Nant a Circle Way East, Pentwyn rhwng 17:30 a 18:30

Medi 25

  • Keep Butetown Tidy yn Cafe Huggard ar Heol Dumballs, Caerdydd rhwng 10:00 ac 11:00

Medi 26

  • Friends of the Mill Grounds yn The Mill rhwng 10:00 a 12:00
  • Keep Roath Tidy yng Nhgerddi Mackintosh rhwng 10:30 a 11:30
  • Keep Splott Tidy / Keep Adamsdown Tidy wrth Pont Sblott rhwng 10:00 a 12:00
  • Keep Riverside Tidy yng Ngerddi Claire rhwng 10:00 ac 11:00
  • Gambia Wales Association wrth Amgueddfa Caerdydd rhwng 10:30 a 12:30
  • Keep Grangetown Tidy wrth Arglawdd Taff rhwng 10:00 a 12:00
  • Keep Canton Tidy wrth Chapter, Treganna rhwng 10:00 a 11:00
  • Cardiff Rivers Group wrth parc ceir staff/ymwelwyr ar Ffordd Lamby, rhwng 09:30 a 12:00

Medi 27

  • Cardiff Rivers Group wrth Llyn Hendre rhwng 09:45 a 12:00

Medi 28

  • Cyngor Cymuned Llys-faen yng Nghanolfan Gymunedol Hen Ysgol Llys-faen rhwng 10:30 a 12:00
  • Local Action Team (Cyngor Caerdydd) ar Stryd Angelina, Tre Biwt, rhwng 10:00 a 11:00

Medi 30

  • Keep Rhiwbina Tidy wrth Hwb Rhiwbina rhwng 10:00 ac 11:00
  • Keep Rhiwbina Tidy wrth Siopau Heol Llanishen Fach rhwng 10:00 ac 11:00
  • Cardiff Rivers Group ym Mharc Grangemoor a Rhodfa Dunleavy rhwng 09:45 a 12:00

Hydref 1

  • FOR Cardiff yn 7 St Andrews Crescent, Caerdydd, CF103DA rhwng 10:00 ac 11:00
  • Prifysgol Caerdydd – Biolegwyr Prifysgol Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd, Plas y Parc rhwng 13:00 a 14:00

Hydref 3

  • Keep Roath Tidy yng Ngerddi Mackintosh rhwng 10:30 a 11:30
  • Cyngor Cymuned Sain Ffagan yn Neuadd y Pentref, Heol Crofft-y-Genau rhwng 09:00 ac 11:00
  • Cardiff Rivers Group yn Clwb Rhwyfo Llandaf rhwng 09:30 a 12:30
  • STEPs wrth Spar, Heol yr Eglwys, rhwng 10:30 a 12:00
  • Keep Rhiwbina Tidy / Casglwyr Sbwriel Radur a Threforgan yn Longwood Drive, Wrth Gatiau’r Ffatri rhwng 10:00 a 11:30
  • Keep Canton Tidy ym Mharc Victori, Treganna rhwng 10:00 a 11:00

Cynhaliwch eich digwyddiad eich hun

Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu eich casglu sbwriel neu lanhau eich hun, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Am ragor o wybodaeth neu i roi gwybod i ni am ddigwyddiad arfaethedig, cysylltwch â:

gareth.davies@keepwalestidy.cymru

neu lovewhereyoulive@cardiff.gov.uk

Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13