English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Wythnos Gwirfoddoli Blaenau Gwent

Blaenau Gwent

Ymunwch â ni wrth i ni ymuno ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent am wythnos o wirfoddoli ym Mlaenau Gwent!

Beth sy’n digwydd?

O ddydd Llun 19 Hydref i ddydd Sadwrn 24 Hydref, byddwn yn cynnal cyfres o weithgareddau codi sbwriel a bioamrywiaeth ar draws Blaenau Gwent – a byddem wrth ein bodd pe byddech yn ymuno â ni!

Dyma amseroedd, dyddiadau a mannau cyfarfod yr holl ddigwyddiadau:

Dydd Llun 19 Hydref – Glanhau’r stryd a’r afon yn Aberbeeg RFC
Amser: 10.00yb-12.00yp
Man cyfarfod: Glandwr St, Aberbeeg, Abertillery NP13 2AD ///checked.broom.marine

Dydd Mawrth 20 Hydref – Ebbw Fach Aberbeeg
Amser: 10.00yb-12.00yp
Man cyfarfod: Ebbw Fach Aberbeeg Community Centre, Pant ddu Road, Aberbeeg, NP13 2BP ///hems.vivid.gratuity

Dydd Mercher 21 Hydref – Glanhau stryd ac afon yn Llanhilleth
Amser: 10.00yb-12.00yp
Man cyfarfod: Maes parcio yn Sefydliad y Glowyr Llanhiledd, Meadow Street, Llanhilleth, NP13 2JT ///foiled.fracture.afraid

Dydd Sadwrn 24 Hydref – Brynithel
Amser: 10.00yb-12.00yp
Man cyfarfod: Brynithel Community Centre, Mount Pleasant Estate, Brynithel, NP13 2HD ///imperious.late.sniff

Nid oes angen cofrestru na dod ag unrhyw beth gyda chi. Dewch ar y diwrnod yn unig, gan wisgo dillad ac esgidiau addas.

Pam cymryd rhan?

Wythnos Gwirfoddoli Blaenau Gwent yw eich cyfle chi i:

  • Helpu eich cymuned trwy gadw mannau lleol yn lân ac yn daclus.
  • Cefnogi bywyd gwyllt a gwella bioamrywiaeth yn eich ardal chi.
  • Cwrdd â phobl o’r un anian a darganfod cyfeillgarwch newydd.
  • Dysgu sgiliau newydd ac archwilio cyfleoedd parhaus i wirfoddoli.

Nid dyna’r cyfan! Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn ennill Credydau Amser Tempo y gallwch eu cyfnewid am amrywiaeth eang o wobrwyon – o docynnau sinema i ddiwrnodau allan, danteithion mewn caffi a sesiynau campfa. Dyma ein ffordd ni o ddweud diolch am roi o’ch amser i helpu i ofalu am Blaenau Gwent.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Debbie Cox – debbie.cox@keepwalestidy.cymru, 07786 744882

Manylion y digwyddiad

DateDyddiad
LocationLleoliad
Blaenau Gwent
Rhannu
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13