Mae gan Gymru un o’r arfordiroedd mwyaf trawiadol ac amrywiol yn y byd. I wirfoddolwyr, rheolwyr traethau, rheolwyr marinas a busnesau arfordirol anhygoel y mae’r diolch am hyn.
Rydym yn chwilio am fentrau sydd wedi gwneud ardaloedd arfordirol yn lanach, yn fwy diogel ac yn fwy cynaliadwy.
Gallai fod yn brosiect sydd wedi adfer ecosystem. Gallai fod yn ymgyrch newydd neu dreial i helpu i leihau sbwriel morol. Neu efallai fod hygyrchedd wedi gwella ar draeth neu mewn marina, gan alluogi mwy o bobl i fwynhau ein harfordir hardd.
Gyda diolch i noddwr y categori Archer Technology Group.
Mae’r categori hwn ar agor i unrhyw un sydd yn rheoli ardal arfordirol.
Llenwch y ffurflen enwebu isod. Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.
Os yw’n haws, gallwch lawrlwytho fersiwn Word o’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom ar ebost neu drwy’r post. Mae’r manylion ar y ffurflen.
Os na allwch gyfleu yn ysgrifenedig pam yr hoffech enwebu rhywun am wobr, gallwch hefyd anfon nodyn llais neu enwebiad fideo atom. Ni ddylai’r nodyn llais neu’r fideo fod yn fwy na phum munud ac mae’n rhaid cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.
Gellir anfon nodiadau llais ar What’s App i 07469 118914 neu eu hanfon ar ebost i twa@keepwalestidy.cymru. Rydym yn gofyn i chi ddilyn hyn gyda lluniau i ddangos effaith gadarnhaol yr unigolyn, grŵp, ysgol neu fusnes – unwaith eto, gellir anfon y rhain ar What’s App neu ar ebost.
Gellir ebostio enwebiadau fideo i twa@keepwalestidy.cymru
Croesewir enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae’n rhaid cyflwyno’r holl enwebiadau erbyn canol dydd ar ddydd Gwener 21 Mehefin. Ni fydd enwebiadau a dderbynnir ar ôl hyn yn cael eu hystyried.