GWOBRAU CYMRU DACLUS 2026: ENWEBIADAU NAWR AR AGOR

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Gwobr Natur yn y Gymuned

Oeddech chi’n gwybod, mae un mewn chwe rhywogaeth yng Nghymru o dan fygythiad? Mae’n ystadegyn brawychus, ond y newyddion da yw bod miloedd o bobl ledled Cymru yn benderfynol o atal dirywiad natur a chyflwyno bioamrywiaeth yn ôl i’n cymunedau.

Mae’r wobr hon yn dathlu prosiectau sydd wedi rhoi help llaw i natur tra’n cysylltu pobl â’r byd naturiol.

Gyda diolch i noddwr ein categori, Trafnidiaeth Cymru.

childs hand with ladybird.

Am y wobr

Mae’r beirniaid yn chwilio am fentrau sydd yn creu neu’n rheoli cynefinoedd, yn diogelu rhywogaethau brodorol, ac yn rhoi cyfle i gymunedau brofi a dysgu am bwysigrwydd natur. Rydym eisiau gweld sut mae enwebeion yn helpu natur i ffynnu ac yn ysbrydoli cysylltiad agosach â hi.

Gallai’r enwebiadau gynnwys:

  • Grŵp cymunedol yn creu cynefinoedd â dolydd blodau gwyllt neu goedwrych newydd.
  • Ysgol yn plannu perllan sy’n agored i’r gymuned leol.
  • Sefydliad yn gwella eu harferion rheoli tir er budd pobl a pheillwyr. Gallai hyn gynnwys newid cyfundrefnau torri gwair a rhoi arwyddion yn eu lle i godi ymwybyddiaeth.

Gwybodaeth ofynnol

Mae’r categori hwn yn agored i unrhyw un sydd wedi gwella natur er budd y gymuned.

Ar gyfer y Wobr Natur yn y Gymuned, bydd y beirniaid yn chwilio am y wybodaeth ganlynol:

  • Pa ardal(oedd) gafodd eu dewis i wella natur a pham?
  • Sut oedd yr amgylchedd naturiol cyn i’r gwaith ddechrau? Pa fathau o blanhigion ac anifeiliaid oedd yno (os yw hyn yn hysbys)?
  • Beth gafodd ei wneud i helpu natur yn yr ardal(oedd)?
  • Faint o bobl a sefydliadau sydd wedi bod yn gysylltiedig?
  • Pa newidiadau y sylwyd arnynt yn y planhigion, anifeiliaid, neu’r amgylchedd naturiol yn gyffredinol o ganlyniad i’r ymdrechion hyn?
  • Sut mae’r effaith yn cael ei fesur?

Dylai eich cais gynnwys tystiolaeth fideo a / neu ffotograffig.

Cyflwyno'ch enwebiad

Llenwch y ffurflen enwebu isod. Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.

Os yw’n haws, gallwn lawrlwytho fersiwn Microsoft Word o’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom drwy e-bost neu’r post. Darperir y manylion ar y ffurflen.

Os na allwch gyfleu yn ysgrifenedig pam yr hoffech enwebu rhywun am wobr, gallwch hefyd anfon nodyn llais neu enwebiad fideo atom. Ni ddylai’r nodyn llais neu’r fideo fod yn fwy na phum munud ac mae’n rhaid cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.

Gellir anfon nodiadau llais ar WhatsApp i 07469 118914 neu eu hanfon ar ebost i twa@keepwalestidy.cymru. Rydym yn gofyn i chi ddilyn hyn gyda lluniau i ddangos effaith gadarnhaol yr unigolyn, grŵp, ysgol neu fusnes – unwaith eto, gellir anfon y rhain ar WhatsApp neu ar ebost.

Gellir ebostio enwebiadau fideo i twa@keepwalestidy.cymru.

Croesewir enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Mae’n rhaid cyflwyno’r holl enwebiadau erbyn 18.00 ddydd Mawrth 30 Mehefin. Ni fydd enwebiadau a dderbynnir ar ôl hyn yn cael eu hystyried.

Gwobrau Cymru Daclus 2026 ffurflen enwebu

Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13