Archwilio teithiau gyda natur
Mae taith pawb gyda natur yn wahanol.
Gallwch glywed gan bobl ledled Cymru wrth iddyn nhw rannu eu profiadau, y mannau sy’n bwysig iddyn nhw, a’r effaith gadarnhaol y mae natur yn ei chael ar eu bywydau.
Darganfyddwch sut mae natur wedi cefnogi eu lles ac wedi ysbrydoli eu cysylltiadau eu hunain gyda’r awyr agored.
Cymryd rhan
Mae sawl ffordd o fwynhau natur, gall edrych yn wahanol i bawb.
O dyfu planhigion a chreu mannau bywyd gwyllt, i archwilio eich parc lleol neu ymuno â phrosiect gardd gymunedol, mae sawl ffordd o gysylltu â natur yn lleol.
P’un ai eich bod yn unigolyn sy’n chwilio am brofiad newydd, yn grŵp cymunedol sydd eisiau creu gardd bywyd gwyllt neu yn sefydliad sydd eisiau cefnogi eich cymuned leol mae cyfle i chi.
Mae gan Cadwch Gymru’n Daclus amrywiaeth o fentrau y gallwch gymryd rhan ynddynt.
Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Gallwch greu natur ar drothwy’r drws. O erddi bach i berllannau a phrosiectau trawsnewid mannau gwyrdd mwy, mae ein pecynnau natur rhagdaledig yn darparu’r planhigion, yr offer, yr adnoddau a’r cymorth arbenigol sydd eu hangen i greu eich gardd newydd.
Darganfod mwy
Y Faner Werdd ar gyfer Parciau
Ewch i ymweld â pharc neu fan gwyrdd sydd wedi ennill Gwobr y Faner Werdd a phrofi rhai o’r mannau awyr agored gorau.
Darganfod mwy
Coedwig Hir Drefol
Gwirfoddolwch gyda Phrosiect y Goedwig Hir Drefol a helpu cymunedau lleol i ofalu am goedwrych a choed hynafol.
Darganfod mwy
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o dreulio amser yn yr awyr agored, cwrdd â phobl newydd a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eich ardal leol.
Ledled Cymru, mae grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yn creu, adfer a gofalu am natur trwy brosiectau garddio a gweithgareddau eraill i wella mannau gwyrdd.
P’un ai eich bod yn newydd i wirfoddoli neu eisoes yn rhan o grŵp cymunedol, gallwn eich helpu i ddod o hyd i gyfle sy’n iawn i chi.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen isod i gysylltu â’n tîm a darganfod sut gallwch gysylltu â natur yn eich ardal chi.
Dod o hyd i’ch gardd gymunedol agosafCysylltu â ni
Ydych chi eisiau dod o hyd i’ch ffordd chi at natur?
P’un ai eich bod yn unigolyn, yn grŵp cymunedol neu’n sefydliad, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
Llenwch y ffurflen isod a byddwn yn eich helpu i ddarganfod cyfleoedd i gysylltu â natur ledled Cymru.







