Pam ein cefnogi?
Mae nawdd Gwobrau Cymru Daclus yn rhoi cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad a grëwyd ar gyfer rhwydwaith o ddilynwyr ymgysylltiedig a rhanddeiliaid.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn un o’r elusennau amgylcheddol mwyaf sy’n gweithredu yng Nghymru, sy’n dod â rhwydwaith o dros 200,000 o wirfoddolwyr, grwpiau cymunedol, ysgolion ac llu o sefydliadau o’r un anian.
Y gwobrau
O ddechrau’r gwanwyn rydym ni’n gwahodd unigolion, ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol o bob cwr o Gymru i enwebu eu hunain ar gyfer Gwobr Cymru Daclus.
Bydd enwebeion yn cael eu gwahodd i wneud cais ar-lein yn ysgrifenedig, drwy nodyn llais neu fideo, yn y ddau achos gofynnir iddynt arddangos eu cyflawniadau. Bydd rhestr fer o’r enwebiadau yn cael ei chreu gan dîm Cadwch Gymru’n Daclus, a bydd enillwyr y categorïau yn cael eu dewis o’r rhestr fer hon gan banel o feirniaid arbenigol. Bydd yr enillydd cyffredinol yn cael ei ddewis o’r enillwyr hyn.
Bydd yr holl enwebeion ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i’r seremoni wobrwyo amser cinio.
Y categorïau
Nod y gwobrau yw dathlu arwyr amgylcheddol ym mhob maes o’n gwaith, ac adlewyrchir hyn yng nghategorïau’r gwobrau:
- Gwobr Natur yn y Gymuned
- Gwobr Cymunedau Glanach
- Gwobr Trawsnewid Cymuned
- Gwobr Matt Bunt am Ragoriaeth Eco-Sgolion
- Gwobr Tyfu Bwyd Cymunedol
- Gwobr Arloesedd yr Economi Gylchol
- Gwobr Uno ar gyfer Effaith Amgylcheddol
- Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
- Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn
- Gwobr Gwydnwch Grŵp Cymunedol
- Gwobr Cyflawniad Eithriadol (prif noddwr)
Prif noddwr
Mae prif noddwr Gwobrau Cymru Daclus yn gyfle unigryw i sefyll o flaen gwirfoddolwyr a busnesau ledled Cymru a dangos cefnogaeth eich sefydliad i’r gwaith sy’n cael ei wneud i greu Cymru fwy diogel a mwy prydferth.
Mae hefyd yn llwyfan cadarnhaol i dynnu sylw at y gwaith rydych chi’n ei wneud i gefnogi dull cynaliadwy.
Cyn y digwyddiad
- Enw eich cwmni yn cael ei gynnwys yn nheitl y digwyddiad: Gwobrau Cymru Daclus 2027 wedi’u noddi gan [enw eich cwmni]
- Eich logo i’w weld ar yr holl ddeunyddiau digidol ac printiedig
- Adran bwrpasol ar dudalennau gwefan gwobrau Cadwch Gymru’n Daclus
- Datganiad i’r wasg pwrpasol wedi’i rannu gyda’r wasg a’r cyfryngau cenedlaethol yn cyhoeddi eich cefnogaeth
- Tudalen noddwr yn rhaglen y seremoni
- Byddwch yn cael eich enwi fel noddwr Gwobr Cyflawniad Eithriadol Cadwch Gymru’n Daclus 2027, gofynnir i chi hefyd fod yn rhan o’r panel beirniaid i gytuno ar yr enillydd
Yn y gwobrau
- Stondin hyrwyddo yn y lleoliad ar ddiwrnod y gwobrau
- Chwe gwahoddiad i’r digwyddiad
- Gwahoddiad i siarad am hyd at bum munud
- Gwahoddiad i gyflwyno’r Wobr Cyflawniad Eithriadol
Buddsoddiad
Cysylltwch â ni am brisiau.
Cysylltwch â ni
Nawdd categori gwobr
Mae noddi un o gategorïau Gwobrau Cymru Daclus yn rhoi cyffyrddiad personol sy’n dangos i wirfoddolwyr a busnesau ledled Cymru un o’r ffyrdd rydych chi’n cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud i greu Cymru fwy diogel a hardd.
Mae hefyd yn llwyfan cadarnhaol i dynnu sylw at y gwaith rydych chi’n ei wneud i gefnogi dull mwy cynaliadwy.
Cyn y digwyddiad
Enw eich cwmni yn cael ei gynnwys ym mhob cyfeiriad at gategori gwobr noddedig
Eich logo i’w weld ar yr holl ddeunyddiau digidol a phrintiedig gan gynnwys tudalennau Gwobrau gwefan Cadwch Gymru’n Daclus
Cynnwys mewn unrhyw ddatganiadau i’r wasg sy’n cael eu rhannu gyda’r wasg genedlaethol a’r cyfryngau sy’n ymwneud â’r Gwobrau
Enw a logo eich sefydliad ar yr holl gyfryngau printiedig, digidol a chymdeithasol
Gofynnir i chi feirniadu’r enillydd o restr fer o dri chais ar gyfer eich categori
Yn y gwobrau
- Stondin hyrwyddo yn y lleoliad ar ddiwrnod y Gwobrau
- Dau wahoddiad i’r digwyddiad
- Gwahoddiad i gyflwyno gwobr eich categori ar y llwyfan
Buddsoddiad
Cysylltwch â ni am brisiau.
Cysylltwch â ni
Dod yn noddwr
Mae’r nawdd ar gyfer Gwobrau Cymru Daclus 2026 bellach wedi gwerthu allan, ond rydym ni wedi agor ein pecynnau 2027.
I drafod hyn gyda’r tîm, neu i ofyn am ein pecyn nawdd llawn gyda phrisiau wedi’u diweddaru, cysylltwch â partnerships@keepwalestidy.cymru
Cysylltwch â ni







