GWOBRAU CYMRU DACLUS 2026: ENWEBIADAU NAWR AR AGOR

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Gwobrau Baner WerddMannau gwyrddRhagoriaeth amgylcheddol

Eglwys Unedig y Barri yn enill Gwobr Faner Werdd Gymunedol

Rhannu

Gardd y Bont Rhwng Gymunedol

Sefydlwyd yr ardd gymunedol gyntaf yn 2013 ar dir a ddynodwyd ar gyfer eglwys a chanolfan gymunedol yn uwchgynllun Glannau’r Barri, a chafodd y ganolfan gymunedol newydd ei hagor ym mis Gorffennaf 2021, gan ennill gwobr Eglwys Eco ar lefel arian ym mis Gorffennaf 2022. Mae’r ardd eco-gyfeillgar yn dal i ddatblygu ac ar gael i’w defnyddio pryd bynnag y mae’r adeilad ar agor. Grŵp o aelodau brwdfrydig yr eglwys a wnaeth y rhan fwyaf o’r gwaith yn yr ardd ac maent yn parhau i’w chynnal. Mae gardd bywyd gwyllt Llefydd Lleol dros Natur wedi’i sefydlu hefyd, ac mae grwpiau lleol ac elusennau sy’n defnyddio’r adeilad yn helpu i gynnal yr ardd wrth gefnogi eu defnyddwyr.

Cyflawni llwyddiant

Mae Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yn cydnabod mannau gwyrdd cymunedol o safon uchel sydd wedi’u rheoli’n dda. I Eglwys Unedig y Barri, mae’n adlewyrchiad o flynyddoedd o ymrwymiad, cydweithio a gofal, ac mae wedi helpu i godi proffil yr ardd yn lleol.

I nodi’r wobr, daeth y grŵp â gwirfoddolwyr, partneriaid a thrigolion lleol ynghyd ar gyfer dathliad cymunedol ym mis Gorffennaf 2025. Roedd y digwyddiad yn gyfle i arddangos yr ardd, diolch i wirfoddolwyr a rhannu’r llwyddiant gyda’r gymuned ehangach. Mynychodd tua 50 o bobl, gan ddangos y gefnogaeth gref leol y tu ôl i’r prosiect.

  • Teimlodd gwirfoddolwyr eu bod yn cael eu cydnabod ac yn cael eu gwerthfawrogi
  • Cynyddodd ymwybyddiaeth o’r safle yn lleol
  • Cryfhawyd cysylltiadau cymunedol
  • Cafodd y grŵp hyder i adeiladu ar eu llwyddiant

“Roedd yn gyfle gwych i ddod at ein gilydd a mwynhau’r gwaith caled rydyn ni wedi’i roi i mewn i’r ardd gymunedol… Roedd hi’n braf iawn teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi.”

Rosie Jones

Gyda statws y Faner Werdd wedi’i gyflawni, mae’r grŵp bellach yn canolbwyntio ar ddatblygu’r ardd ymhellach a pharhau i ddod â’r gymuned ynghyd.

Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Pwyllgor Hinsawdd Ysgol Bro Banw

Darllen rhagor
Eisteddodd buwch goch gota ar laswellt mewn dôl.

Dysgwyr Ifanc yn Clirio 100kg o Sbwriel

Darllen rhagor
Grŵp o bobl ifanc ar draeth yn dal offer casglu sbwriel.

Clwt pwmpen Abermorddu

Darllen rhagor
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13