Mae Caru Cymru yn fudiad cynhwysol wedi ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid awdurdod lleol i ddileu sbwriel a gwastraff. Nod Caru Cymru yw ysbrydoli pobl Cymru i weithredu a gofalu am ein hamgylchedd. Nid yw’n ymwneud â glanhau yn unig; mae hefyd am atal sbwriel rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Yn dilyn ymgynghoriad â phartneriaid, amlygwyd tipio anghyfreithlon fel mater allweddol i fynd i’r afael ag ef gydag ymgyrch cenedlaethol.
Targedodd cam un o’r ymgyrch fyfyrwyr – gan eu haddysgu ar ymddygiad cywir yn ymwneud â gwastraff a hyrwyddo trwsio ac ailddefnyddio trwy gyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu yn y brifysgol, yn cynnwys caffi trwsio cyntaf Prifysgol Bangor.
Holi ac ateb
Dangosodd ymchwil helaeth a wnaed gan Dîm Polisi ac Ymchwil Cadwch Gymru’n Daclus fod myfyrwyr a phreswylwyr eraill Tai Amlfeddiannaeth yn debygol o brofi materion penodol a allai greu gwastraff gormodol a thipio anghyfreithlon posibl. Mae’r rhain yn cynnwys trosiant uchel tenantiaid, diffyg profiad o drefniadau gwastraff ac ailgylchu lleol, a rhannu cyfleusterau bin gydag aelwydydd anghysylltiedig.
Ym mis Hydref 2022, helpodd Cadwch Gymru’n Daclus i sefydlu caffi trwsio cyntaf Prifysgol Bangor ar y campws, oedd wedi ei arwain gan fyfyrwyr, mewn cydweithrediad ag Undeb y Myfyrwyr, Caffi Trwsio Cymru, Cyngor Sir Gwynedd a Petha (Llyfrgell Pethau Gwynedd). Cafodd gwirfoddolwyr eu recriwtio o blith y myfyrwyr i gynnig cymorth TG, trwsio dillad a beiciau.
Roedd i gyd yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Gwastraff Prifysgol Bangor, roddodd hefyd gyfle i bartneriaid siarad yn uniongyrchol â myfyrwyr am leihau gwastraff.
Hysbyswyd cannoedd o fyfyrwyr, y rhan fwyaf ohonynt yn byw ar eu pen eu hunain am y tro cyntaf, am bwysigrwydd creu aelwydydd cynaliadwy.
Gwahoddwyd aelodau o’r gymuned i weld y caffi trwsio ar y campws ar waith hefyd a dysgu am werth trwsio ac ailddefnyddio eitemau’r cartref.
Cynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu tebyg mewn prifysgolion ar draws y wlad. Roedd y rhain yn cynnwys:
– Gwasanaeth ailgylchu dros dro ym Mhrifysgol Caerdydd
– Gweithgaredd curo drysau a chaffi atgyweirio ym Mhrifysgol Abertawe
– Cyfnewid dillad ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd
– Digwyddiad ymgysylltu cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam
Cafodd cam un o’r ymgyrch tipio anghyfreithlon – ‘Ddim yn Olwg Da’ – ei rannu gyda phob prifysgol trwy’r pecyn cymorth ar-lein gan arwain at ymgysylltu helaeth ar sianeli digidol.Cafodd hysbysebion ‘Ddim yn Olwg Da’ eu harddangos ar fysiau, safleoedd bws, bariau lleol, lleoliadau cerddoriaeth a sinemâu ar gampysau prifysgol ac o amgylch. Ymddangosodd negeseuon ar lwyfannau ffrydio hefyd fel Spotify ac Apple Music, gan dargedu pobl ifanc rhwng 18-25 oed.
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor nawr yn cynnal digwyddiadau caffi trwsio rheolaidd ar y campws ynghyd â Chaffi Trwsio Cymru. Y nod yw denu gwirfoddolwyr gyda sgiliau mwy amrywiol er mwyn i’r digwyddiadau barhau i gynyddu.
Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn bod pobl yn cael cyfle i ailddefnyddio eitemau y maent yn eu caru a dod allan o'r cylch o daflu pethau i ffwrdd, yn arbenning pan mae rhai atgyweiriadau mor hawdd.
Elsi Gwirfoddolwr trwsio dillad
Mae myfyrwyr yn fwy ymwybodol yn amgylcheddol nag erioed, ond weithiau nid oes ganddynt y sgiliau neu'r offer i drwsio ac ailddefnyddio. Mae dod a chymaint o bobl ynghyd i rannu gwybodaeth a sgiliau a helpu ei gilydd ac osgoi'r angen i brynu'n newydd yn ddiangen yn union beth oeddem eisiau ei gael allan o'r Caffi Trwsio ac edrychwn ymlaen at gynnal mwy yn fuan.
Sam Dickins Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli, Prifysgol Bangor
Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill
Cynllun Cenedlaethol Ailgylchu Cwpanau
Darllen rhagor
Lleihau Gwastraff Bwyd yn Ysgol Gynradd Waun Wen
Darllen rhagor
Lleihau gwastraff bwyd ledled Torfaen
Darllen rhagor








