English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Swyddog Cyllid

Mae gennym gyfle cyffrous ar hyn o bryd yn ein Tîm Cyllid.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn recriwtio Swyddog Cyllid i weithio yn ein Tîm Cyllid prysur.

Mae’r rôl hon wedi’i lleoli gartref, gyda’r ymgeisydd delfrydol wedi’i leoli yn ardal De Cymru, ac mae’n swydd barhaol yn amodol ar gyllid parhaus i’r elusen.

Bydd deiliad y rôl yn atebol i’r Rheolwr Cyllid am gyflawni tasgau a gweithgareddau ariannol.

Mae’n cael ei gydnabod bod diffyg cynrychiolaeth yn y trydydd sector amgylcheddol o grwpiau mwy amrywiol a chymunedau llai ymgysylltiedig. Wrth i ni geisio mynd i’r afael â hyn, mae angen tîm amrywiol o bobl arnom sydd yn rhannu ein hangerdd ac sydd â’r egni a’r sgiliau i’n helpu i gyflawni ein nod o gynrychioli yr holl gymunedau rydym yn gweithio ynddynt.

Swyddog Cyllid

  • Lleoliad Y cartref, yn byw yn Ne Cymru
  • Math o gyflogaeth Llawn amser
  • Cyflog £29,998
  • Dyddiad cau 16/09/2026 12:00 yb
Gwnewch gais
Rhannu

Manyleb y swydd​

Bydd y Swyddog Cyllid yn gyfrifol am amrywiaeth o dasgau a gweithgareddau ariannol yn cynnwys mewnbynnu data a chofnodi trafodion ariannol.

Bydd yn ymuno â thîm bach cefnogol, ac â pherthynas waith agos â’r Rheolwr Cyllid ac aelodau eraill o’r tîm. Bydd yn darparu gwasanaeth rhagorol i gysylltiadau mewnol ac allanol, yn ogystal â datblygu perthynas dda gyda’r holl randdeiliaid.

Yn gweithio 35 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda’r cyfle i weithio oriau hyblig.

Gwnewch gais nawr

Cipolwg ar Cadwch Gymru'n Daclus

Cadwch Gymru’n Daclus yw’r elusen sydd wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau lleol ledled Cymru i ddiogelu ein hamgylchedd nawr ac i’r dyfodol.

Yn ymarferol, rydym yn gwybod bod amgylchedd o ansawdd da yn bwysig i bobl ac y gall y buddion wneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd, lles, cymunedau a’n heconomi. Ac yn hanfodol, mae’n wych i natur hefyd.

Ein gweledigaeth fel elusen yw am Gymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau. Mae ein strategaeth ar gyfer degawd ‘Cymru Hardd’ yn amlinellu’r addewid yr ydym wedi ei wneud i’n galluogi i gyflawni hyn:

Rydym yn gweithio i ddileu sbwriel a gwastraff

Rydym yn creu ac adfer mannau gwyrdd

Rydym yn gosod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol

Rydym yn grymuso pobl ifanc

Prif dasgau

  • Prosesu ceisiadau archebion prynu yn y system gyfrifo, gan sicrhau bod y codio’n gywir.
  • Derbyn a chofnodi anfonebau cyflenwyr a’u prosesu yn y system gyfrifo, gan sicrhau cywirdeb a’u paru â’r archebion prynu.
  • Sefydlu taliadau yn barod i’w cymeradwyo mewn apiau bancio.
  • Prosesu trafodion ceisiadau costau.
  • Dilysu, gwirio dogfennau ategol am, a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer, hawliadau costau staff a rhanddeiliaid neu gyfranogwyr cyfarfodydd eraill. Datrys materion dyrannu codio.
  • Derbyn a monitro ceisiadau ar gyfer cyhoeddi anfonebau gwerthu.
  • Codi, cofnodi, ac anfon anfonebau gwerthu allan a phrosesu’r rhain yn y system gyfrifo.
  • Cynorthwyo gyda thasgau cysoni’r banc.
  • Darparu cymorth neu arwain tasgau ariannol adrannol.
  • Monitro taflenni amser staff er mwyn paratoi ar gyfer ailgodi tâl mewnol
  • Gwneud unrhyw dasgau rhesymol eraill yn unol â chais tîm rheoli Cadwch Gymru’n Daclus.
A group of volunteers with litter picking equipment

Manyleb person

I’ch galluogi i wneud y gwaith, bydd angen bod gennych o leiaf dwy flynedd o brofiad yn gweithio ar draws amgylchedd ariannol neu gyfrifo, gyda phrofiad amlwg o ddefnyddio Excel.

Yn ddelfrydol â phrofiad o systemau llyfrau cyfrifon ariannol cyfrifiadurol, yn arbennig Sage Line 50.

Ynghyd â hyn, bydd angen i chi ddangos bod gennych ymrwymiad i ddatblygiad amgylcheddol a chynaliadwy a’ch bod yn angerddol am weithio yn y sector hwn.

Mi fydd angen ddangos bod gennych rhai sgiliau, ac mae’r rhain yn cynnwys:

  • Y gallu i flaenoriaethu, cynllunio a rheoli llwyth gwaith amrywiol i fodloni terfynau amser caeth.
  • Y gallu i ddatblygu perthynas effeithiol gyda staff, timau rheoli a sefydliadau ar bob lefel.
  • Lefel uchel o hunangymhelliant a’r gallu i weithio’n effeithiol heb lawer o oruchwyliaeth ac fel rhan o dîm.
  • Sgiliau cyfathrebu a threfnu da.
  • Yn fedrus yn defnyddio cymwysiadau Microsoft Office.
  • Yn aelod hyblyg o dîm gydag ethos cydweithio ac sy’n adnabod buddion gweithio mewn partneriaeth.
  • Yn barod i weithio oriau hyblyg, yn ôl yr angen.
  • Ymagwedd arloesol ac yn barod i roi cynnig ar ddulliau a syniadau newydd.
  • Yn llawn cymhelliant gyda sgiliau rheoli amser a threfnu rhagorol.
  • Yn barod i deithio tipyn ledled Cymru yn ôl y galw.

Yn ogystal â’r uchod byddwch yn gyfrifol am reoli eich hun i wneud y canlynol:

  • Gweithio yn unol â gwerthoedd a pholisïau Cadwch Gymru’n Daclus bob amser.
  • Ymdrechu i gyflawni’r gwerth gorau i’r sefydliad, bob amser.
  • Gweithio o fewn cyllidebau y cytunwyd arnynt bob amser.
  • Gwneud hyfforddiant mewnol / allanol fel sy’n ofynnol i fodloni gofynion y swydd, anghenion y Cwmni, ac i wella eich hun.
  • Cyflwyno gwaith yn unol â therfynau amser a safonau.

Byddai’n wych pe byddech yn gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae hyn yn ddymunol, nid yn hanfodol.

Bydd angen i chi fod yn barod i deithio oddi cartref yn ôl yr angen hefyd.

Rydym yn cydnabod bod hon yn swydd eang ac amrywiol, ac nid ydym yn disgwyl i’r ymgeiswyr fod â phrofiad helaeth ym mhob maes a restrir uchod. Yr hyn sy’n bwysig yw agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu, parodrwydd i dderbyn heriau newydd, ac ymrwymiad i ymgymryd â hyfforddiant a chyfleoedd datblygu. Wrth i’r swydd, yr elusen a’r sector ehangach barhau i esblygu, rydym yn chwilio am rywun sy’n awyddus i dyfu gyda ni.

Lles a buddion staff

Rydym wedi ymrwymo’n llawn i iechyd a lles ein staff ac yn cynnig ystod eang o fuddion, gan gynnwys:

  • Oriau cwbl hyblyg a chyfleoedd i weithio gartref.
  • Lwfans gwyliau hael o 25 diwrnod yn cynyddu i 30 diwrnod ar ôl pum mlynedd o wasanaeth, a gwyliau banc.
  • Cynllun pensiwn cyfrannol o 12%.
  • Diwrnod i ffwrdd ar gyfer eich pen-blwydd.
  • Taliad gweithgaredd misol.
  • Cynllun marwolaeth mewn gwasanaeth.
  • Cynllun iechyd arian parod.
  • Cyfle i ymuno ag undeb credyd.
  • Cynllun beicio i’r gwaith.
  • Cynllun teithio gwyliau cynaliadwy Climate Perks.
  • Cynllun prynu cerbyd trydan (yn amodol ar argaeledd).

Os hoffech drafodaeth anffurfiol ar y rôl yn Cadwch Gymru’n Daclus, neu os hoffech yr wybodaeth yma mewn fformat arall, cysylltwch â hr@keepwalestidy.cymru neu ffoniwch 029 20002 5695.

Sut i wneud cais

Rydym yn chwilio am y person iawn ar gyfer y swydd hon – rhywun fydd yn mwynhau gweithio gyda ni a helpu i gyfrannu at ein llwyddiant parhaus.

Os hoffech gael eich ystyried, llenwch y Ffurflen Mynegi Diddordeb isod  lle bydd gofyn i chi gyflwyno datganiad personol, naill ai’n ysgrifenedig neu ar ffurf fideo.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich Ffurflen Mynegi Diddordeb wedi’i chwblhau yw hanner dydd ar 16 Medi 2026.

Bydd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael gwahoddiad i gwrdd â ni ar 1 Hydref 2026. Bydd hwn yn gyfle i ni glywed mwy am eich profiadau a’ch syniadau.

I’ch helpu chi i baratoi, byddwn yn rhannu’r testunau cyfweld a’r themâu o flaen llaw. Os nad yw’r dyddiad arfaethedig yn addas, byddwn yn gwneud ein gorau i fod yn hyblyg a threfnu dyddiad arall.

Os nad ydych wedi derbyn ymateb oddi wrthym yn eich gwahodd i fynychu cyfweliad erbyn 2 Hydref 2026, dylech gymryd eich bod wedi bod yn aflwyddiannus ar yr achlysur hwn.

Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13