Barod i weld eich effaith?
Mae’r map a’r ffigurau isod yn cynnwys gweithgareddau a gofnodwyd gan bawb ers 2019.
Ar y dechrau, bydd yn dangos cipolwg o weithgareddau sydd wedi digwydd ledled Cymru ers 1 Ionawr, ond mae’n hawdd addasu’r hyn a welwch.
Dyma eich canllaw i archwilio’r map:
- Chwyddwch a gwnewch y testun yn llai gan ddefnyddio’r symbolau + a – neu eich bysedd.
- Defnyddiwch yr eicon hidlo i fireinio’r hyn yr ydych yn ei weld. Gallwch ddewis hidlo yn ôl y math o weithgaredd, chwilio yn ôl grŵp neu sefydliad, awdurdod lleol a ward hyd yn oed.
- Cliciwch ar yr eicon llyfr i weld y data mewn tabl. Os ydych yn defnyddio hidlwyr, bydd y rhain yn cael eu defnyddio yma hefyd. Gallwch ddefnyddio’r botwm gweithredoedd (eicon pedwar cylch) i allforio’r data. Mae fformatiau gwahanol ond os byddwch yn dewis ‘Allforio i CSV’ byddwch yn lawrlwytho taenlen Excel.
- Cliciwch ar yr eicon clipfwrdd i weld ein hystadegau pennawd ar gyfer Cymru.
- Cliciwch ar yr eicon marc cwestiwn ar gyfer allwedd ein map.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth pellach arnoch, cysylltwch â’n Tîm Data yn data@keepwalestidy.cymru
Rhywfaint o brint mân pwysig
Os hoffech ddileu eich data o’r map, anfonwch e-bost at y tîm yn data@keepwalestidy.cymru. Chi sy’n rheoli’r sefyllfa bob amser.
Yn Cadwch Gymru’n Daclus rydym yn falch o weithredu’n ddwyieithog ac wedi ymrwymo i ddatblygu ein defnydd o’r Gymraeg. Mae data ar y Map Effaith Gymunedol yn ymddangos yn yr iaith y cafodd ei gyflwyno.
Yn anffodus, gan ein bod yn defnyddio llwyfan allanol i arddangos y data hwn, nid oes gennym y gallu i ddarparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog. Byddwn yn parhau i chwilio am ffyrdd o wella hyn.
Bob tro byddwch yn llenwi’r ffurflen hon, byddwch yn helpu i ddatblygu darlun gwell o weithgaredd gwirfoddoli ledled Cymru.
Mynd i eCyfrif Cymru
Mae grwpiau cymunedol ar hyd a lled y wlad yn chwilio am wirfoddolwyr.
Dod o hyd i’ch grŵp lleol







