Beth yw cronfeydd segur?
Pan fydd gan gwmni cyfreithiwr gronfa cleientiaid sy’n weddill na allant ei thalu i’r cleient, mae’n cael ei hystyried yn segur. Caniateir i’r cwmni dynnu’r arian hwnnw allan a’i roi i elusen o’u dewis.
Gallwch roi cyfrifon cleientiaid heb eu hawlio i’r elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus:
- os yw ymdrechion rhesymol wedi methu â sefydlu hunaniaeth a manylion cyswllt perchennog yr arian
- heb ganiatâd Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) os yw’r balans o dan £500
- ar yr amod bod caniatâd SRA yn cael ei roi os yw’r swm dros £500
Gellir dod o hyd i ganllawiau ychwanegol ar wefan SRA.
Effaith eich rhodd
Mae rhoddion o gyfrifon segur yn mynd yn syth i’n gwaith ledled Cymru, gan ddiogelu a gwella’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a grymuso cymunedau i chwarae rhan weithredol wrth ofalu am y lleoedd yr ydym ni i gyd yn eu rhannu.
Darllenwch fwy am y gwaith hanfodol rydym ni’n ei wneudSut i gyfrannu
Rydym ni’n gwybod y gall delio â chyfrifon heb eu hawlio fod yn bryder ac rydym ni am ei wneud mor hawdd â phosibl.
Ar gyfer balansau dros £500, defnyddiwch y ffurflen Awdurdodau Rheoleiddio Cyfreithwyr i wneud cais i’r awdurdod dynnu arian allan o gyfrif y cleient.
Defnyddiwch ein llythyr templed i hysbysu deiliad y cyfrif o’ch bwriad i roi’r arian heb ei hawlio i Cadwch Gymru’n Daclus.
Template letter for clientsAnfonwch e-bost at y tîm ar fundraising@keepwalestidy.cymru gyda manylion eich rhodd er mwyn i ni allu rhoi ein rhif cyfrif a’n cod didoli i chi wneud y trosglwyddiad.
Unwaith y bydd y trosglwyddiad yn cael ei wneud, byddwn yn anfon derbynneb atoch drwy e-bost.
Diolch yn fawr iawn i chi am ddewis cyfrannu i Cadwch Gymru’n Daclus. Ar ôl derbyn eich rhodd, bydd ein tîm yn cysylltu drwy e-bost i ddiolch i chi am eich cefnogaeth.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am wneud cyfraniad trwy gyfrif segur, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’n tîm codi arian ar fundraising@keepwalestidy.cymru
Cysylltwch â ni







