CYMERWCH GIP AR EIN RHAGLEN NEWYDD, ECO-TOTS CYMRU

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eraill

Dathlu 50 mlynedd o Cadwch Gymru’n Daclus

Rhannu

Rydym yn nodi dechrau ein hanner can mlwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn Eisteddfod Genedlaethol 1972 yn Hwlffordd, roedd gan Sefydliad y Merched genhadaeth i gadw trefi ac ardaloedd gwledig ar hyd a lled Cymru yn lân ac yn daclus.  Arweiniodd eu hangerdd a’u penderfynoldeb i ddiogelu’r amgylchedd rhag sbwriel ym Mhrydain ar ôl y rhyfel at ffurfio grŵp Keep Britain Tidy ac, yn ddiweddarach, ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus a esgorodd ar elusen bresennol Cadwch Gymru’n Daclus.

Rydym wedi dod yn bell ers hynny.

Am hanner canrif, rydym wedi bod yn creu mannau sydd yn teimlo’n ddiogel, yn lân ac yn wyrdd; rydym wedi ysbrydoli cenedlaethau o blant, wedi codi safonau mewn rhagoriaeth amgylcheddol ac wedi meithrin cysylltiadau gyda phartneriaid byd-eang. Wrth wynebu’r argyfwng hinsawdd, colli bioamrywiaeth a llygredd, rydym wedi datblygu rhaglenni a phrosiectau sy’n cefnogi gweithredu cynaliadwy, cadarnhaol.

Mae hon yn foment o falchder i Sefydliad y Merched. Mae’n fraint fawr cael bod yn rhan o greu sefydliad sydd wedi gwneud gymaint i’r amgylchedd lleol ar hyd a lled Cymru a gallu dathlu gyda’n gilydd ar adeg pan mae Sefydliad y Merched yn parhau i ganolbwyntio ar brosiectau fel prosiect treftadaeth naturiol coed a newid hinsawdd.

Eirian Roberts Cadeirydd Pwyllgor Ffederasiynau Cymru

Mae gan Cadwch Gymru’n Daclus le arbennig yng nghalonnau llawer o bobl a chymunedau ar hyd a lled Cymru, ac wrth i 12 mlynedd anhygoel wrth y llyw ddod i ben i mi, rwy’n eithriadol o falch o’r gwaith y mae fy nhîm wedi ei gyflawni i wneud Cymru yn lle gwell i fyw. Ond mae mwy o waith i’w wneud o hyd. Rwy’n gwybod fy mod yn ei adael yn nwylo tîm o safon fyd-eang ac rwy’n gofyn i chi barhau i’w cefnogi i gyflawni ein gweledigaeth

Lesley Jones Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Er bod 2022 yn flwyddyn sy’n parhau i herio ein llesiant a’n ffordd o fyw, mae hefyd yn cynnwys dealltwriaeth gynyddol o’r Gymru yr ydym eisiau byw ynddi ac yn gyfle i ni gyd weithio gyda’n gilydd i greu Cymru hardd nawr ac i’r dyfodol.

Byddwch yn rhan o’r 50 mlynedd nesaf. Darllenwch ein strategaeth, Cymru Hardd i ganfod sut gallwch fod yn rhan o ofalu am y wlad ryfeddol hon.

Rhannwch eich atgofion o Cadwch Gymru’n Daclus!

Helpwch ni i ddathlu ein pen-blwydd yn 50 oed! Rhannwch eich straeon, eich lluniau a’ch fideos ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #CadwchGymrunDaclus50

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13