JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-SgolionPobl ifanc

Ysgol Bassaleg

Rhannu
Astudiaeth achos delwedd bywyd gwyllt

Ymchwilio Bioamrywiaeth i Annog Parch at Safle’r Ysgol a’r Cynefinoedd ynddi

Ymchwilio bioamrywiaeth a bywyd gwyllt ar safle ein hysgol er mwyn defnyddio’r canfyddiadau fel tystiolaeth i wella’r ardal a lleihau sbwriel ynddi gan godi ymwybyddiaeth o’i effaith ar gynefinoedd y creaduriaid sy’n byw yno.

Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch gynnwys yr ysgol gyfan?

Er mwyn cyrraedd y targed hwn, gosododd y grŵp Eco gamera gweld yn y nos ar safle’r ysgol er mwyn darganfod pa fywyd gwyllt sy’n byw ar y safle. Gwnaethom gynnwys yr ysgol gyfan drwy wneud fideo o’r tystiolaeth, gan ychwanegu dyfyniadau o’r athrawon yn sôn am fioamrywiaeth ar safle ein hysgol a pha mor bwysig yw hi i warchod hyn. Daethom o hyd i dystiolaeth o foch daear, llwynogod, ystlumod ynghyd â lluniau o rywogaethau eraill yr oedd yr aelodau wedi tynnu lluniau ohonynt yn ystod y dydd.

Cyflwynodd Oliver Lewis a Sonia Marwaha eu darganfyddiadau mewn gwasanaethau ysgol i Flynyddoedd 8 a 9 er mwyn annog disgyblion i beidio â thaflu sbwriel  er mwyn  gwarchod y cynefinoedd hyn.

 

Sut a pham wnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn?

Gan ddefnyddio ein hadolygiad amgylcheddol, sylweddolon ni nad oedden ni wedi gwneud llawer o gynnydd yn yr adran fioamrywiaeth, felly penderfynon ni wneud rhywbeth am hyn. Roedd aelodau’r Eco-Bwyllgor yn awyddus i edrych ar gynefinoedd anifeiliaid ar safle’r ysgol gan ei bod yn ardal mor amrywiol. Roedden nhw eisiau archwilio’r ardal a darganfod pa anifeiliaid oedd yn byw yno.

Wrth gwblhau’r adolygiad amgylcheddol a chynllun gweithredu, teimlodd y disgyblion fod sbwriel yn broblem yn yr ysgol a bod diffyg ymwybyddiaeth o’r effaith y mae sbwriel yn ei gael ar fywyd gwyllt yn yr ardal. Teimlodd y disgyblion ei fod yn bwysig rhannu hyn gyda chymuned yr ysgol er mwyn annog pawb i drin y safle gyda pharch.

 

Sut mae’r prosiect wedi effeithiau ar eich ysgol a’ch cymuned?

Ar ôl gwasanaethau ein haelodau eco, cawsom 6 aelod newydd a oedd eisiau mynd i’r afael â datrys y problemau sbwriel yn yr ysgol er mwyn gwarchod y bywyd gwyllt sydd gennym ar y safle. Dangosodd hyn i ni fod aelodau’r gymuned ysgol wedi ymateb i dystiolaeth ein hymchwil yn y ffordd yr oedden ni wedi gobeithio.

Adroddodd y grŵp yn ôl i gyfarfod a dweud bod y sefyllfa sbwriel wedi gwella’n sylweddol. Oherwydd COVID-19, doedden ni ddim yn gallu rhoi mesuriad cywir o hyn a chaeodd yr ysgol yn fuan wedi hynny, ond rydym yn parhau i wneud hyn yn flaenoriaeth yn ein cynllun gweithredu a byddwn yn mesur y canlyniadau’n llawn cyn bo hir wrth i ni barhau i atgyfnerthu’r neges honno i gymuned yr ysgol.

Mae’r darganfyddiadau hyn wedi ein hannog i ystyried sut fydd adeilad newydd ein hysgol yn cael ei adeiladau er mwyn gwarchod y bioamrywiaeth ar y safle. Oherwydd hyn, cytunodd y dirprwy bennaeth i ni gwrdd gyda phensaer yr adeilad newydd i drafod hyn ymhellach.

 

Sut wnaethoch ddathlu llwyddiant a beth yw’r camau nesaf?

Dathlon ni ein llwyddiant drwy rannu ein canfyddiadau gyda Chyngor Cymuned Rogerstone a greodd argraff fawr arnyn nhw. O ganlyniad i hyn â’n Siarter Eco, enillon ni £300 mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd gan Gyngor Rogerstone. Rydym yn defnyddio’r arian i weithredu camau gweithredu i wneud ein ysgol yn fwy eco-gyfeillgar. Rhannwyd ein llwyddiant ar ein tudalen eco ar Drydar.

Ein cam nesaf yw i ddefnyddio’r arian hwn i warchod y cynefinoedd hyn ymhellach. Mae awgrymiadau wedi cael eu gwneud sef prynu mwy o finiau o gwmpas y safle i atal pobl rhag taflu sbwriel ac i fuddsoddi mewn camera gweld yn y nos arall i barhau i fonitro’r bywyd gwyllt ar safle ein hysgol.

Hoffwn hefyd gynnal y  gwasanaethau hyn yn flynyddol er mwyn annog aelodau o gymuned ein hysgol i feddwl yn ofalus am sbwriel a chadw safle’r ysgol yn ddiogel i’n hanifeiliaid a holl gymuned yr ysgol.

Byddwn yn cyflwyno ein canfyddiadau i bensaer yr adeiladau ysgol newydd i drafod sut y gallwn barhau i barchu a chadw’r cynefinoedd hyn.

Rwy’n credu ein bod hi’n bwysig cadw ein tirluniau hardd a naturiol gan eu bod yn helpu i lanhau ein llygredd ac yn darparu lle i’n fywyd gwyllt sydd mewn perygl fyw a ffynnu.

Oliver Lewis Aelod yr Eco-Bwyllgo

Mae’r Eco-bwyllgor wedi cael tystiolaeth anhygoel drwy ddefnyddio’r camerâu gweld yn y nos gan weld moch daear a llwynogod. Mae mor bwysig ein bod ni’n defnyddio ein canfyddiadau i sicrhau bod cynefinoedd yr anifeiliaid anhygoel hyn, rhai sy’n rhywogaethau a warchodir yn y DU

Miss E Murray Athrawes AG a Chydlynydd Eco-Sgolion
Ein hysgolion

Gallwch ganfod sut mae ysgolion yn eich ardal chi’n ei wneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.

Darganfod mwy
Her Hinsawdd Cymru
Golygfa o'r Ddaear o'r gofod yn y nos, gyda goleuadau dinas i'w gweld ar ochr dywyll y blaned.

Mae'r her arloesi ysgol hon yn gwahodd dysgwyr 5–18 oed i arddangos syniadau ar gyfer planed well.

Darganfod mwy
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Clwt pwmpen Abermorddu

Darllen rhagor

Noddi Hybiau Sbwriel gan McDonald’s

Darllen rhagor

Seilwaith gwyrdd: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Darllen rhagor
two Football Association of Wales female players helping two young children and a teacher plant a raised planting bed.
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13