JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-SgolionPobl ifanc

Hyrwyddo Teithio Llesol yn Ysgol Stanwell

Rhannu
Clawr dogfen gwyn Eco Stanwell, gyda meysydd 'enw' a 'ffurflen'.

Hyrwyddo Teithio Llesol yn Ysgol Stanwell

Nod ein prosiect oedd hyrwyddo a hybu Teithio Llesol i’r holl gymuned ysgol.

Sut wnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?

Nod ein prosiect oedd hyrwyddo Teithio Llesol yn unol â’r agenda cenedlaethol er mwyn lleihau tagfeydd a llygredd yn ein cymuned leol a chefnogi ffyrdd o fyw iach. Er mwyn gwneud hyn defnyddion ni ein gwersi bugeiliol drwy greu cynllun gwers yn cynnwys 3 gwers i gynnwys yr holl ddisgyblion (blynyddoedd 7-13). Cafodd y gwaith ei gofnodi mewn llyfryn ac ychwanegodd athrawon dasgau ychwanegol i ffurflenni Google  er mwyn casglu syniadau.

Gwers 1: Defnyddion ni glipiau David Attenborough: A Life on our planet fel sbardun ac edrychon ni ar effaith ddynolryw ar y byd naturiol.

Gwers 2: Edrychon ni ar yr hyn mae pobl yn gallu ei wneud i newid/lleihau dinistr i’r byd naturiol. Yna trafodon ni’r hyn y gellir ei wneud ar raddfa fyd-eang, cenedlaethol, lleol ac unigol. Cafodd yr wybodaeth honno ei chofnodi ar ffurflen Google ac yna gwnaeth y Clwb Eco ddadansoddi’r wybodaeth.

Gwers 3: Gwnaethom Awdit teithio ac yna edrychon ni ar Ultrecht yn yr Iseldiroedd fel astudiaeth achos. Ystyrion ni sut oedd Teithio Llesol wedi’i fewnosod yn niwydiant Ultrecht a’i lwyddiannau. Yna edrychon ni ar Benarth ac ystyried a fyddai’n bosibl gwneud rhywbeth tebyg yma a thrafodon ni rwystrau posibl. Meddylion ni hefyd y ffyrdd y gall Stanwell helpu i hyrwyddo Teithio Llesol  Cafodd yr holl wybodaeth ei chofnodi ar ffurflenni Google a’i rhannu gyda’r Clwb Eco.

 

Sut a pham benderfynoch chi ar y targed hwn?

Wrth gwblhau’r Adolygiad Amgylcheddol, tynnodd aelodau’r cyhoedd a disgyblion a staff yr ysgol ein sylw at y tagfeydd y tu allan i’r ysgol ar ddechrau a diwedd y dydd. Fel pwyllgor, penderfynon ni ein  bod ni eisiau ceisio lleihau traffig ac yn meddwl y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn oedd drwy hyrwyddo teithio llesol.  Teimlon ni hefyd, yn dilyn y pandemig y dylem ganolbwyntio ar fenter a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a chorffol disgyblion a staff. Pan gafodd yr Adolygiad Amgylcheddol ei drafod gyda’r Pwyllgor Eco, roedd pawb yn gytûn ar bwysigrwydd y prosiect.

 

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

Mae’r prosiect wedi cael effaith gadarnhaol gan ei bod wedi annog a hyrwyddo Teithio Llesol i gymuned yr ysgol gyfan. Mae disgyblion a staff yn deall beth yw Teithio Llesol ac wedi cael eu hysgogi i’w wneud yn rhan o’u ffordd o fyw. Roedden ni’n gallu cael effaith ar ymddygiad disgyblion a staff a’u gorfodi i fyfyrio ar eu heffaith bersonol ar yr amgylchedd. Yn hyn o beth, rydym yn gwella diwydiant yr ysgol ac yn symud i’r cyfeiriad cywir. Er nad oedd yr arolwg wedi casglu data ar gyfer pob disgybl, rydym wedi dyfeisio ffordd newydd o’i gasglu a bydd hyn yn ein helpu i fonitro ymddygiadau teithio yng nghymuned ein hysgol yn fwy cywir yn y dyfodol.  Rydym yn  bwriadu gwneud hyn ddwywaith y flwyddyn (Hydref a Mehefin). Rhai effeithiau cadarnhaol eraill oedd bod 6 aelod o staff wedi ymuno â’r cynllun seiclo i’r gwaith ac fel y gwelwch yn y llun ar y dde, roedd disgyblion hefyd yn awyddus i gymryd rhan. Roedd hyn wedi golygu ein bod ni’n gallu defnyddio’r rheseli beiciau i’w llawn potensial.

 

Sut wnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw’r camau nesaf?

Dathlon ni lwyddiant drwy rannu rhai o’r syniadau a  gasglom ni ar y ffurflenni Google, (e.e. syniadau ar gyfer gwella Teithiol Lleol ym Mhenarth). Cafodd yr wybodaeth honno ei rhoi i ddisgyblion yn eu gwersi bugeiliol ar ôl i’r Cynllun Gwaith gael ei gwblhau ac ar ôl i’r Clwb Eco ddadansoddi’r canlyniadau.

Yn y dyfodol hoffem barhau i hyrwyddo Teithio Llesol drwy fentrau fel ‘Wythnos Beicio i’r Ysgol’ a’r ‘Pedal Mawr’. Rydym yn bwriadu monitro sut mae disgyblion yn teithio i’r ysgol drwy gasglu data ac yn defnyddio hwn i adnabod adegau drwy’r flwyddyn pan fydd disgyblion yn llai tebygol o deithio’n llesol a chyflwyno mentrau i fynd i’r afael â hyn.

Grŵp o ddysgwyr Stanwell y tu allan, tri ohonyn nhw'n eistedd ar fainc, y gweddill yn sefyll y tu ôl iddyn nhw.

Mae gwylio’r rhaglen a chwblhau’r tasgau myfyrio wedi pwysleisio pwysigrwydd teithio llesol a’r newidiadau rydym yn gallu eu gwneud ar lefel personol a lleol.

Claire Power Cadeirydd Eco Stanwell (Disgybl)

Mae’n wych gweld y gymuned ysgol gyfan yn cymryd rhan yn yr un fenter a gweld disgyblion yn dod yn fwy ystyriol ac yn ymwybodol o’u heffaith ar yr amgylchedd.

E Ghazi-Torbati Cydlynydd Eco (Athro)
Cymryd rhan

Cofrestrwch eich ysgol gydag Eco-Sgolion Cymru a dechreuwch eich taith gynaliadwyedd.

Darganfod mwy
Mwy am sut mae’n gweithio

Mae ein holl Eco-Sgolion yn gweithio drwy saith cam. Ar ôl i ysgol roi hyn ar waith a chasglu tystiolaeth o’i chynnydd, mae’n gallu gwneud cais am wobr Eco-Sgolion.

Sut mae'n gweithio
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Y Prosiect TAITH

Darllen rhagor
Map o'r ddaear, mae'r tir yn wyn a'r dŵr yn las.

Ymgyrch Sbwriel Smygu: Keep Britain Tidy

Darllen rhagor

Rhannu Pryderon Hinsawdd

Darllen rhagor
Baner Uganda
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13