JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-SgolionPobl ifanc

Lleihau Gwastraff Bwyd yn Ysgol Gynradd Waun Wen

Rhannu
Dysgwr mewn gwisg las yn dal hambwrdd bwyd gwyrdd.

Lleihau Gwastraff Bwyd

Lleihau Gwastraff Bwyd Amser Cinio.

Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?

Roedd plant ac oedolion yn yr ysgol wedi sylwi ar y swm cynyddol o wastraff bwyd o brydau bwyd ysgol a phecynnau bwyd. Roedd yr Eco Arwyr eisiau i blant gynnal ‘Wythnos Gwastraffu Llai’ felly roedd y plant wedi bwyta’r bwyd ar eu platiau/yn eu pecynnau bwyd yn hytrach na’i daflu yn y bin. Roedd pob aelod o’r grŵp llais disgyblion Eco Arwyr yn gyfrifol am roi gwybod i’w dosbarth, gan annog llai o wastraff a chasglu’r data. Ysgrifennodd Eco Arwyr at y rhieni  ar Ddosbarth Dojo a chwrdd â  staff y gegin a chofnododd ddata ar giniawau ysgol.

 

Sut a pham wnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn?

Penderfynodd yr Eco Arwyr weithredu ar ôl cwblhau’r Adolygiad Amgylcheddol Eco-Sgolion  ynghyd â chost cynyddol bwyd. Mae’r ysgol yn cefnogi’r banc bwyd lleol ac yn ymwybodol na ddylid gwastraffu bwyd. Roedd angen cymryd cyfrifoldeb am gamau gweithredu er mwyn lleihau faint o fwyd oedd yn cael ei daflu bob amser cinio. Roedd y plant yn arbennig o bryderus am faint o fwyd oedd heb ei orffen felly gwnaethon nhw annog ei gyd-ddisgyblion i ystyried hyn  pan oedden nhw’n bwyta eu pecynnau bwyd.

 

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

Dyma enghraifft:

Blwyddyn 4 (CA2)

Cinio pecyn (wedi’i gymryd yn erbyn ei fwyta’n llawn):

  • Dydd Llun: 12 pecyn cinio, 3 wedi’u bwyta’n llawn
  • Dydd Mawrth: 13 pecyn cinio, 4 wedi’u bwyta’n llawn
  • Dydd Mercher: 12 pecyn cinio, 6 wedi’u bwyta’n llawn
  • Dydd Iau: 14 pecyn cinio, 8 wedi’u bwyta’n llawn
  • Dydd Gwener: 12 pecyn cinio, 8 wedi’u bwyta’n llawn

Ciniawau ysgol – gwastraff bwyd:

  • Dydd Llun: 4 bag wedi’u gwastraffu
  • Dydd Mawrth: 3 bag wedi’u gwastraffu
  • Dydd Mercher: 3 bag wedi’u gwastraffu
  • Dydd Iau: 1 bag wedi’i wastraffu
  • Dydd Gwener: 2 fag wedi’u gwastraffu

Sut ydych chi’n dathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?

Rhannon ni ein llwyddiant yn ein Gwasanaeth Gwener gyda’r plant a’r staff. Siaradodd Mrs Gill, ein cogydd am y lleihad enfawr yn y nifer o fagiau gwastraff yn ystod ‘Wythnos Gwastraffu Llai’. Cafodd y rhieni ddiweddariadau ar Dojo a chawson nhw darged o leihau gwastraff bwyd gartref.

Camau Nesaf: Monitro Gwastraff Bwyd yn rheolaidd

Teimlais i’n falch iawn. Bwytais i fwydydd y byddwn i fel arfer yn taflu.

Joe Blwyddyn 5

Roedd agwedd y plant yn wych. Roedd pob un wedi cymryd cyfrifoldeb personol am leihau gwastraff bwyd.

Mrs Nicklin Prifathro
Oes stori gennych yr hoffech ei rhannu?

Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.

Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Saith cam i lwyddiant
Mae grŵp o ddysgwyr mewn festiau gwelededd uchel yn cerdded i fyny set o risiau, yn cario bagiau coch mawr yn casglu sbwriel.

Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.

Sut mae’n gweithio
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur

Darllen rhagor
Mae chwech o bobl yn edrych dros flwch planhigion pren o flaen ffens las.

Clwt Pwmpen Abermorddu

Darllen rhagor
Pwmpen gyda dail o'i gwmpas.

Ysgol Gyfeillgar i’r Môr

Darllen rhagor
Pump o bobl ifanc o flaen sgrin yn rhoi cyflwyniad, maen nhw'n gwisgo lifrai coch a gwyn.
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13