JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-SgolionPobl ifanc

Ysgol Dŵr y Felin Castell-nedd Port Talbot

Rhannu
Twnnel polythen gyda phlanhigion y tu allan iddo.

Creu ardal bywyd gwyllt i bawb

Prosiect creadigol i ddod â bywyd yn ôl i’r cwad, gan ei wneud yn faes y gallai bywyd gwyllt, addysg ac er lles disgyblion a staff ei ddefnyddio.

Ym mis Mawrth, wrth i’r ysgolion newid eu rôl i fod yn ddarparwyr gofal plant i weithwyr Allweddol a disgyblion agored i niwed, roedd staff Dwr y Felin yn awyddus i gynnig ystod o weithgareddau ar gyfer y disgyblion oedd yn mynychu. Mae wedi bod yn ddymuniad gan rai o’r staff ers peth amser i adfywio ardal y Cwad ac felly roedd y cyfnod clo yn gyfle gwych i wireddu’r uchelgais hwn.

Mae’r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru wedi galluogi adrannau i feddwl yn greadigol am ffyrdd o gyflwyno materion a chysyniadau i ddisgyblion CA3.  Teimlwyd y gellid defnyddio gardd fel adnodd i bwysleisio cysylltiadau’r cwricwlwm rhwng Gwyddoniaeth a chynhyrchu Bwyd, fyddai hefyd yn ymgorffori rhyngweithio STEM.

Gellir defnyddio cynnyrch wedi ei dyfu yn yr ysgol mewn technoleg bwyd, fyddai’n dangos taith bwyd yn glir i ddisgyblion. Er mwyn hybu iechyd a lles, teimlwyd y gellid defnyddio gardd fel gofod i ddisgyblion ymlacio, yn ogystal â man tawel i ddisgyblion sydd yn mynychu’r ganolfan ASD sydd newydd agor. Yn ogystal, byddai clwb garddio yn gwella darpariaeth gweithgareddau allgyrsiol yr ysgol.

Mae gweld wynebau cymuned yr ysgol yn goleuo wrth werthfawrogi lliw a chynnyrch yr ardd wedi bod yn uchafbwynt.  Mae lluniau o’r ardal ar ei newydd wedd wedi cael eu harddangos ar wefan yr ysgol.

Y targed yw cynnal a chadw’r ardd a’i defnyddio’n rhagweithiol yn y cwricwlwm tra’n ymgysylltu disgyblion yn yr ardd. Y gobaith hefyd yw y caiff y gofod ei ddefnyddio’n effeithiol fel ardal ddiogel a thawel i’n staff a’n disgyblion i gyd.

Roeddwn i'n teimlo'n llawn tyndra yn yr ysgol yn ystod y pandemig ond roedd gallu treulio amser yn yr ardd yn teimlo fel ffordd wirioneddol o ymlacio a thynnu fy meddwl oddi arni.

Aelod o Staff

Dydw i erioed wedi tyfu tatws o'r blaen, doeddwn i ddim yn sylweddoli ei bod hi mor hawdd â hyn.

Disgybl
Oes stori gennych yr hoffech ei rhannu?

Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.

Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Saith cam i lwyddiant
Mae grŵp o ddysgwyr mewn festiau gwelededd uchel yn cerdded i fyny set o risiau, yn cario bagiau coch mawr yn casglu sbwriel.

Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.

Sut mae’n gweithio
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Grŵp Afonydd Caerdydd

Darllen rhagor

Ysgol Bassaleg

Darllen rhagor
Buwch goch gota ar blanhigyn yn agos i fyny

Ymgyrch Sbwriel Smygu: Keep Britain Tidy

Darllen rhagor
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13