JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Caru CymruGwirfoddoliSbwriel a gwastraff

Grŵp Cymunedol Cyfarthfa

Rhannu
A group of volunteers on a grass banking in front of houses, smiling with red and blue litter bags in the foreground.

Cymuned ar waith!

Ffurfiodd Grŵp Cymunedol Cyfarthfa ym Merthyr Tudful yn 2017 i fynd i’r afael â chynnydd mewn sbwriel ar draws y ward.

Nhw bellach yw un o’r grwpiau cymunedol mwyaf gweithgar yng Nghymru, yn cofnodi dros ddeg gweithgaredd y mis yn rheolaidd ar eCyfrif Cymru.

Yma mae’r grŵp yn sôn am y ffordd y gwnaethant ffurfio a sut mae eu gwaith wedi datblygu.

Sut dechreuodd Grŵp Cymunedol Cyfarthfa?

Cafodd y grŵp ei sefydlu yn 2017 yn dilyn pryderon a fynegwyd gan ein cynghorwyr lleol am y broblem sbwriel yn ward Cyfarthfa.

Ar ôl cysylltu â Cadwch Gymru’n Daclus, roedd y broses o sefydlu grŵp ffurfiol yn eithaf didrafferth. Mae tafarn leol yn Heolgerrig, oedd yn barod iawn i gynnal cyfarfod, felly rhoddwyd posteri allan yn y ward – mewn siopau amrywiol, eglwysi, y swyddfa bost a’r clwb cymdeithasol.

Daeth tua 20 o bobl i’r cyfarfod cyntaf, oedd yn galonogol. Roedd brwdfrydedd amlwg, oedd yn golygu ei fod yn benderfyniad hawdd dod yn grŵp ffurfiol.

Cawsom ein cefnogi gan ein Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus lleol, a esboniodd yr angen am ymgynghoriad, pwyllgor o dri aelod o leiaf – Cadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd – a’r angen i sefydlu cyfrif banc ar gyfer y grŵp.

Cawsom gyfansoddiad safonol Cadwch Gymru’n Daclus a gwnaethom ei fabwysiadu ac yn dal i’w ddefnyddio. Mae hwn yn hanfodol os yw grŵp eisiau gwneud cais am gyllid grant.

Pa gymorth wnaethoch chi ei dderbyn gan y gymuned leol?

Mae Cyngor Merthyr yn gefnogol iawn o’n gweithgareddau a bob amser yn awyddus i helpu. Fe wnaethom weithio’n agos iawn gyda’n cynghorwyr lleol o’r dechau.  Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth yr ydym yn eich chael gan yr unigolion etholedig hyn a’u cysylltiadau â’r cyngor ehangach.

Fe wnaethom hefyd gysylltiadau defnyddiol â busnesau lleol. Er enghraifft:

  • Cyfrannodd McDonald’s blanwyr blodau yn 2019, ac rydym yn dal i’w defnyddio a’u cynnal a’u cadw.
  • Rhoddodd Trago Mills gerdyn masnach i ni, yn rhoi gostyngiad o 20% ar eitemau yr ydym yn eu prynu.
  • Mae Eglwys y Mormoniaid yn parhau i ddarparu gwirfoddolwyr.
  • Rydym wedi trefnu gweithgareddau codi sbwriel gyda sefydliadau fel EE a Principality.

Sut mae eich gwaith wedi datblygu dros y blynyddoedd?

Er i ni sefydlu fel grŵp codi sbwriel i ddechrau, fe wnaethom ehangu’n gyflym i weithgareddau amgylcheddol eraill.

Roedd gan sawl aelod sgiliau mewn meysydd eraill a allai fod o fudd i’r gymuned. Roedd y rhain yn cynnwys plannu bylbiau’r gwanwyn, plannu blodau’r haf, tocio gwrychoedd a thorri gwair. Roeddem yn ffodus i gael arian grant wnaeth ein galluogi i brynu offer a chyfarpar i’n helpu gyda hyn.

Fe wnaethom hefyd fabwysiadu’r parc ar ben uchaf Heolgerrig oedd wedi ei esgeuluso braidd a gosod pecyn gardd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yma ac yn Twyncarmel.

Ar ôl y pandemig, rhoddwyd y gorau i grwpiau codi sbwriel ac yn lle hynny penderfynwyd rhannu’r ward yn ardaloedd amrywiol – mae tua wyth – y mae aelodau unigol yn eu glanhau yn fwy ad hoc.

Ond, nid ydym wedi colli golwg ar yr ethos o grŵp. Rydym yn cyfarfod bob dau fis ac yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd trwy’r cyfryngau cymdeithasol – mae gennym grŵp WhatsApp a thudalen Facebook gweithredol iawn.

Rydym yn dal i gynnal o leiaf pum digwyddiad cymunedol bob blwyddyn lle mae ein niferoedd yn cynyddu gyda phobl eraill o’r gymuned.

We still hold at least five community event days each year where our numbers are swelled by others from the community.

Pa heriau ydych chi wedi eu hwynebu wrth ddod yn grŵp cymunedol sefydledig?

Fel grŵp gwirfoddol mae denu gwirfoddolwyr yn heriol – gallem bob amser wneud tro â mwy o ddwylo!

Rydym hefyd yn ariannu ein hunain ac yn dibynnu ar grantiau a rhoddion.

Rydym yn hynod ddiolchgar am y cyllid yr ydym wedi ei dderbyn gan sefydliadau fel Ffos y Fran ac Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm. Heb y cymorth hwn ni fyddem yn gallu gwneud y gweithgareddau a’r gwaith yr ydym yn ei wneud.

Pa fuddion sydd i fod yn grŵp cymunedol?

Mae llawer o fuddion i fod yn grŵp cymunedol. Mae rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned yn rhoi boddhad, er ei fod yn rhwystredig pan fyddwn yn gweld sbwriel yn ailymddangos.

Mae ein haelodau yn gymdeithasol iawn ac yn mwynhau cwrdd, cydweithio a dysgu oddi wrth ein gilydd.

To find out more about the Cyfarthfa Community Group, follow them on Facebook.

Gall rhedeg grŵp cymunedol fod yn waith caled, ond mae’n rhoi boddhad mawr hefyd. Ac rydym yn credu ein bod yn rhoi rhywbeth yn ôl i’n cymuned.

Phil Star Cadeirydd Grŵp Cymunedol Cyfarthfa
Dechreuwch eich grŵp cymunedol eich hun

Gall ein swyddogion arbenigol eich tywys drwy’r broses.

Darganfod mwy
Ymunwch â’n Grŵp Facebook

Wedi ei gynllunio i gefnogi gwirfoddolwyr.

Dod yn aelod
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Nawdd: Tai Wales and West

Darllen rhagor
Tidy Wales Awards 2025, overall winner presented with prize by Ann Hinchey, CEO Wales and West Housing Association

Ysgol Y Cymer, Rhondda Cynon Taf

Darllen rhagor
Rhes o geir wedi'u parcio wrth ochr ffordd.

Cadwch y Fenni’n Daclus

Darllen rhagor
A group of six volunteers, outside a red building, all smiling carrying red litter bags
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13