Ysgol Llandrillo yn Rhos yn mynd i’r afael â sbwriel, gan waredu dros 100kg o’r ardal leol.
Dywedwch wrthym am eich prosiect:
Mae plant o Ysgol Llandrillo yn Rhos wedi bod yn cwrdd ag aelodau’n cymuned leol a’r grŵp ‘Ffrindiau Llandrillo yn Rhos i gymryd rhan mewn digwyddiadau codi sbwriel rheolaidd ar y traeth. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi casglu mwy na 100kg o sbwriel ac wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i’r ardal leol. Yn yr ysgol, rydym wedi bod yn dysgu am ficro-blastigau a sut mae pob darn o blastig a gafodd ei waredu o’r traeth yn helpu atal miliynau o ronynnau micro-blastig rhag cyrraedd y môr.
Drwy’r prosiect hwn, rydym hefyd wedi adeiladu perthnasoedd cryf gydag aelodau’r gymuned yn Llandrillo yn Rhos.
Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?
Cysyllton ni â’r grŵp glanhau traeth lleol, Ffrindiau Llandrillo yn Rhos. Fe wnaethom hefyd gofrestru’r ysgol fel Ardal Ddi-sbwriel a threfnu sesiynau codi sbwriel rheolaidd gyda nhw. Cafodd dosbarthiadau eu gwahodd i gymryd rhan lle bo’n bosibl, felly mae pawb wedi cael cyfle i gymryd rhan.
Sut a pham wnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn?
Dewisodd ein Cyngor Eco leihau sbwriel lleol fel targed amgylcheddol yr ysgol gan eu bod wedi’i nodi fel problem weladwy a phwysig yn ein hardal.
Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?
Rydym wedi gwaredu dros 100kg o sbwriel o’r traeth lleol. Mae aelodau’r gymuned wedi sylwi ar hyn ac yn dweud yn aml pa mor lan ydy’r traeth nawr.
Sut wnaethoch chi ddathlu a beth yw’r camau nesaf?
Rydym yn cynllunio sesiwn olaf ar y traeth eleni, a fydd yn cynnwys rhai gweithgareddau hwyl i ddathlu ein gwaith caled.
Rwy wir yn mwynhau codi sbwriel a helpu gwneud Cymru’n well.
Sam Blwyddyn 4
Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig i’r plant fod allan yn dysgu am eu hamgylchedd mewn ffordd ymarferol. Mae’r plant wedi dod o hyd i greaduriaid môr a chregyn sydd wedi eu hysbrydoli i ofyn a dysgu mwy.
Mark Painter Cyd-lynydd Eco-Sgolion
Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.
Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.
Sut mae’n gweithioCael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill
Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur
Darllen rhagor
Dileu sbwriel a gwastraff: Partneriaeth Co-star
Darllen rhagor
Ysgol Bryngwyn, Gum Drop Project
Darllen rhagor








