JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-Sgolion

Ymladdwyr gwastraff bwyd

Rhannu
Tri dysgwr ifanc yn gwisgo gwisg ysgol las. Mae un ohonyn nhw'n dal cloriannau gyda bag du ar ei phen.

Ysgol Gynradd Llanfoist Fawr

Taclo gwastraff bwyd yn ein ffreutur yn ystod amseroedd cinio.  Taclo maint dognau, dewisiadau bwydlen a gwastraff.

Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr holl ysgol?

Roedd hi’n amlwg o siarad gyda’n Eco Bwyllgor ac o’n cynllun gweithredu ysgol bod angen i wastraff bwyd fod yn flaenoriaeth.  Roedd y staff arlwyo’n siomedig gyda’r gwastraff bwyd gan ddisgyblion. Penderfynwyd y byddai’r Eco Bwyllgor yn cyfweld disgyblion, a phwyso’r gwastraff bwyd dros wythnos i weld lle’r oedd y bwyd yn fwyaf amlwg. Y cyfartaledd gwastraff bwyd am wythnos oedd 90kg.  Gwahoddwyd rhieni i gymryd rhan mewn arolwg i sut y gallwn ni fynd i’r afael â’r broblem gwastraff bwyd.

 

Sut a pham wnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn?

Mae wedi bod yn broblem barhaus yn ein hysgol am amser maith.  Ers cyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim, mae mwy o blant yn cael pryd amser cinio.  Mae rhai disgyblion cyfnod isaf yn dewis tatws trwy’u crwyn bob diwrnod ac mae’r gwastraff o beidio bwyta’r crwyn yn broblem fawr.  Fe wnaeth yr Eco Bwyllgor siarad gyda dosbarthiadau yn eu tro i ofyn beth y byddent yn hoffi ei weld yn newid am amseroedd cinio.  Fe wnaethant ddweud eu bod nhw eisiau meintiau dognau gwahanol ar gyfer y cyfnod isaf a’r cyfnod uchaf.  Mwy o ddewis ac amgylchedd bwyta lle nad oes rhaid ciwio am fwyd, opsiynau bwyd gwahanol a chadw llygad yn agosach ar y bar salad.

 

Sut mae’r prosiect hwn wedi effeithio ar eich ysgol ac ar eich cymuned?

Mae hyn yn mynd rhagddo o hyd.  Rydym ni bellach wedi cael bwydlen newydd ac mae disgyblion dal yn awyddus i gymharu gwastraff bwyd i weld os yw hyn wedi cael effaith.  Mae disgyblion cyfnod uchaf yr ysgol nawr yn bwyta gyda disgyblion cyfnod isaf yr ysgol ar ddyddiau penodol i drwytho arferion da a sicrhau bwyta’n well.  Trwy wasanaeth dosbarth cyfan, mae disgyblion nawr yn ymwybodol iawn bod gwastraff bwyd yn broblem sydd angen ei datrys.  Mae staff y ffreutur yn cytuno gyda hyn ac wedi bod yn gefnogol iawn o’n nodau, ac felly hefyd y gymuned rhieni.

 

Sut wnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?

Rydym ni yn y broses o geisio newid meintiau dognau sydd yn gyfarwyddeb gan Lywodraeth Cymru.  Hyd yma, rydym ni wedi bod mewn cysylltiad gyda’r Awdurdod Lleol i weld p’un a allai’r rheolwyr arlwyo gyflwyno hyn i Lywodraeth Cymru.  Mae disgyblion yn falch bod eu pryderon yn cael eu mynegi ac mae ein diddordeb yn newid ein harferion wedi’i nodi gan yr Awdurdod Lleol.  Rydym ni wedi cael ein gwahodd fel ysgol i gymryd rhan mewn cynllun peilot i newid amgylchedd amseroedd cinio ‘Gwella’r Ystafell Ginio’.

Rwy’n falch bod yr Eco Bwyllgor yn ceisio newid faint o fwyd rydym ni’n ei wastraffu gan ei fod wir yn ddychrynllyd gweld faint rydym ni’n ei wastraffu bob dydd.

Tom C Disgybl

Mae’r Eco Bwyllgor wedi bod yn ddi-syfl yn eu hymrwymiad i leihau gwastraff bwyd

Mrs Clewer Athrawes
Oes stori gennych yr hoffech ei rhannu?

Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.

Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Saith cam i lwyddiant
Mae grŵp o ddysgwyr mewn festiau gwelededd uchel yn cerdded i fyny set o risiau, yn cario bagiau coch mawr yn casglu sbwriel.

Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.

Sut mae’n gweithio
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Hyrwyddo Teithio Llesol yn Ysgol Stanwell

Darllen rhagor
Dau berson ifanc ar feiciau, un beic yn wyn a'r llall yn ddu a gwyrdd.

Ysgol Bassaleg

Darllen rhagor
Buwch goch gota ar blanhigyn yn agos i fyny

Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion

Darllen rhagor
Two volunteers, one male and one female smiling holding litter picks, wearing yellow hi-vis vests
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13