Ymdrech ysgol gyfan i hybu bioamrywiaeth, cryfhau cysylltiadau cymunedol, a dod â dysgu yn fyw yn yr awyr agored.
Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?
Roedden ni’n ffodus i dderbyn pecyn perllan gan Cadwch Gymru’n Daclus, a alluogodd ni i blannu amrywiaeth o goed ffrwythau treftadaeth gyda’u cefnogaeth. Daeth y prosiect â myfyrwyr o sawl grŵp blwyddyn, staff a rhieni ynghyd.
Creodd a rhannodd ein Pwyllgor Eco becynnau gwybodaeth gyda dosbarthiadau a rhanddeiliaid i helpu pawb i ddysgu am ofal coed, bioamrywiaeth a manteision amgylcheddol perllannau.
Sut a pham wnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn?
Tynnodd ein hadolygiad amgylcheddol Eco-Sgolion sylw at y ffaith bod angen gwella bioamrywiaeth ein hysgol. Datgelodd ddiffyg bywyd planhigion a chynefinoedd bywyd gwyllt, a gryfhaodd ein hachos dros wneud cais am y pecyn perllannau. Ein nod oedd nid yn unig gwella’r amgylchedd naturiol ar gyfer bywyd gwyllt lleol, ond hefyd creu cyfleoedd dysgu ystyrlon i ddisgyblion ymgysylltu â natur a datblygu eu dealltwriaeth o gynaliadwyedd.
Archwiliwyd manteision perllannau a chanfuwyd eu bod yn darparu manteision amgylcheddol hirdymor, gan gynnwys ansawdd aer gwell, cynhyrchu bwyd lleol, ac—yn bwysicaf oll, mwy o fioamrywiaeth.
Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?
Rhoddodd y prosiect gyfle i’n dysgwyr gael profiad ymarferol a chysylltu â thiroedd hardd ein hysgol. Fe wnaeth hefyd ein galluogi i weithio ochr yn ochr ag aelodau o’r gymuned ehangach i hyrwyddo arferion cynaliadwy. Mae’r perllannau bellach wedi dod yn rhan bwysig o’n dull addysgu, ac rydym yn bwriadu eu defnyddio i gyfoethogi dysgu ar draws gwyddoniaeth, daearyddiaeth ac addysg iechyd trwy ddarparu cyd-destunau ystyrlon, go iawn.
Mae’r prosiect hefyd wedi cryfhau cyfranogiad rhieni, gyda llawer o rieni’n gwirfoddoli eu hamser i helpu i ofalu am y planhigion.
Sut wnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?
Fe wnaethon ni ddathlu’r plannu gyda digwyddiad ysgol gyfan, gan wahodd dosbarthiadau, staff a rhieni i weld y berllan newydd a dysgu mwy am y prosiect. Cydnabuwyd y Pwyllgor Eco am ei waith caled, a rhannwyd y cyflawniadau drwy ein cylchlythyrau.
Gan edrych ymlaen, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gynnal a chadw’r coed a monitro eu cyfraniad at wella bioamrywiaeth.
Roeddwn i wrth fy modd yn mynd allan a phlannu’r coed. Bydd ein hysgol yn edrych yn cŵl!
Rowan 9 oed
Mae wedi bod yn brofiad gwych mynd ag amrywiaeth o ddysgwyr allan i dir ein hysgol er mwyn gwella.
Emily Athrawes
Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.
Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.
Sut mae’n gweithioCael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill
Ysgol Gyfeillgar i’r Môr
Darllen rhagor
Grŵp Cymunedol Cyfarthfa
Darllen rhagor
Cynllun Cenedlaethol Ailgylchu Cwpanau
Darllen rhagor








