JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-SgolionPobl ifanc

Awyr Glan, Dyfodol Braf

Rhannu
Mae plentyn yn dal dyfais felen tra bod dau blentyn arall yn arsylwi, un yn dal clipfwrdd.

Ysgol Pum Heol

Mae Ysgol Pum Heol yn ennyn diddordeb dysgwyr mewn dysgu am faterion amgylcheddol, yn enwedig ansawdd aer, cludiant, a newid hinsawdd.

Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr holl ysgol?

Cyn mesur ansawdd yr aer gan ddefnyddio’r monitorau, edrychodd y disgyblion ar haenau gwahanol o atmosffer y Ddaear; sy’n cynnwys y Toposffer, Stratosffer, Mesosffer, Thermosffer ac Ecsosffer.

Yn ystod wythnos y Ddaear, fe wnaeth yr ysgol gyfan astudio pwysigrwydd coed a sut maen nhw’n chwarae rôl hanfodol. Yn ystod yr amser hwn, fe wnaethom gymryd rhan mewn sesiwn plannu coed gyda Sefydliad Joh Burns yng Nghydweli, plannu coed ac amrywiaeth o blanhigion yn ein hardal leol, casglu sbwriel ar y cyd â Gwanwyn Glân Cadwch Gymru’n Daclus, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithdai Main Cymru ar bwysigrwydd coed.

Fe wnaeth disgyblion greu cymeriadau cartŵn i ymdebygu’r prif nwyon yn yr amgylchedd, gan gynnwys ffeithiau ychwanegol am bob un e.e. peryglon. Dyma gyflwyniad y dysgwyr i PM10, PM2.5 a charbon monocsid, oedd yn hanfodol cyn defnyddio’r monitorau ansawdd aer.

Fe wnaeth y partner STEM ddarparu enghreifftiau o ddata a gasglwyd o leoliadau amrywiol yn Abertawe i’r disgyblion eu dadansoddi a’u dehongli. Fe wnaeth hyn hefyd roi syniad clir iddyn nhw o’r hyn y byddent yn ei wneud fel rhan o’u hymchwiliad eu hunain yn ogystal â thrafodaeth dosbarth ar pam fod gan rai ardaloedd ansawdd aer gwell nag ardaloedd eraill.

 

Sut a pham wnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn?

Nod yr astudiaeth oedd galluogi dysgwyr i archwilio’r opsiynau sy’n bodoli eisoes, a’r rhai hynny sy’n cael eu cynnig ar gyfer cludiant personol yn y dyfodol a’r effeithiau y bydd yr opsiynau hyn yn eu cael ar lygredd aer, yr hinsawdd a’r amgylchedd ehangach.

Yn aml, tybir mai cludiant personol yn symud 100% i fodd batri / trydan o storio a gyriad ynni fydd yr unig ateb yn y dyfodol, ond mae’n bwysig deall y cyfyngiadau sy’n dal y defnydd ar raddfa fawr o geir trydan yn ôl a deall yr opsiynau gyriad eraill sy’n cael eu hystyried a sut maen nhw’n cymharu o ran dichonoldeb ac allyriadau cylchred oes.

Byddwn yn edrych ar amrywiaeth eang o opsiynau gan gynnwys petrol a diesel, sut maen nhw’n gweithio a sut maen nhw wedi datblygu ac wedi gwella dros y blynyddoedd, y trydan batri a beth mae ‘dim allyriadau’ yn ei olygu pan fyddwch chi’n ystyried cynhyrchu pŵer. Byddwn hefyd yn edrych ar opsiynau eraill fel y cerbyd trydan celloedd tanwydd er enghraifft, a’r effeithiau mae’r holl fathau hyn o bweru yn eu cael ar yr amgylchedd rydym ni’n byw ynddo.

Dros y newyddion i gyd, rydych chi’n clywed am newid hinsawdd ac roeddem ni eisiau codi ymwybyddiaeth am y mater pryderus hwn ac edrych hefyd ar ddatblygiadau ar gyfer y dyfodol.

 

Sut mae’r prosiect hwn wedi effeithio ar eich ysgol ac ar eich cymuned?

Wedi codi ymwybyddiaeth o’r mater. Yr ysgol gyfan wedi cymryd rhan. Fe wnaeth yr holl ddosbarthiadau gymryd rhan yn y gweithdy Maint Cymru, gweithgareddau yn ystod ‘Wythnos y Ddaear’, sesiynau casglu sbwriel a gweithgareddau plannu yn yr ardaloedd awyr agored. Wedi rhannu ar gyfryngau cymdeithasol e.e. Instagram ac ap yr ysgol i’r gymuned ehangach. Mae plant hefyd wedi bod yn plannu a thyfu eu planhigion eu hunain gartref oherwydd eu bod wedi mwynhau hyn yn ystod y prosiect. Rhannwyd lluniau yn ystod ein Gwasanaeth Dathlu Llwyddiant ar fore Gwener. At hynny, mae 10% o blant nawr yn cerdded/beicio i’r ysgol yn dilyn y prosiect o’i gymharu â 3% oedd yn gwneud hynny o’r blaen, sy’n anhygoel!

Mae mor bwysig cadw ein planed yn iach ar gyfer y dyfodol. Dim ond un Ddaear rydym ni’n ei chael, felly mae angen i ni ofalu amdani drwy roi diwedd ar ddatgoedwigo, llygredd aer, gwastraffu dŵr a lleihau ein ôl troed carbon.

Mia Disgybl

Agorodd y prosiect lygaid y disgyblion i bwysigrwydd llygredd aer. Mae wedi bod yn hyfryd gweld eu hangerdd dros frwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.

Mrs Barnett Athrawes Dosbarth
Oes stori gennych yr hoffech ei rhannu?

Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.

Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Saith cam i lwyddiant
Mae grŵp o ddysgwyr mewn festiau gwelededd uchel yn cerdded i fyny set o risiau, yn cario bagiau coch mawr yn casglu sbwriel.

Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.

Sut mae’n gweithio
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Lleihau gwastraff bwyd ledled Torfaen

Darllen rhagor
Dysgwyr yn sefyll o flaen cynhwysydd metel, yn gwisgo gwisg goch.

Ysgol Uwchradd Crucywel, Powys

Darllen rhagor
Golygfa o'r awyr o draeth Rhossili, gyda thonnau'n golchi i fyny ar y lan.

Cynllun Cenedlaethol Ailgylchu Cwpanau

Darllen rhagor
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13