JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-SgolionPobl ifanc

Siop ‘dros dro’ i ail-garu hen wisg ysgol

Rhannu
Dysgwr ifanc yn rhoi ei law yn erbyn drws, yn gwisgo gwisg las.

Menter Ail-Garu, Ysgol Gynradd Bryn Awel

Trefnodd Pwyllgor Eco Ysgol Gynradd Bryn Awel siop ‘dros dro’ i ail-garu hen wisg ysgol!

Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?

Gofynnodd yr Eco-Bwyllgor i gymuned yr ysgol ddylunio posteri i hybu ail-ddefnyddio gwisg ysgol. Gwnaeth yr ysgol gyfan gwblhau tasg cartref/ysgol gyda’u teuluoedd i ddylunio poster i hysbysebu siop ‘dros dro’. Dewisodd yr Eco-Bwyllgor nifer o ddyluniadau a’u rhoi o gwmpas yr ysgol. Cynhalion  nhw arolwg ar y dechrau ac ar ôl gwerthu eitemau yn y siop a gwneud gwaith ar draws y cwricwlwm.

 

Sut a pham wnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn?

Cafodd ganlyniadau o’n adolygiad amgylcheddol eu hysgrifennu i’n Cynllun Gweithredu Eco. Un o’r meysydd ffocws oedd ‘lleihau gwastraff,’ a hybu ‘gwrthod, lleihau, ailddefnyddio, ailwerthu, ailgylchu.’

 

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

Cafodd drawstoriad o 54 o ddisgyblion eu harolygu cyn ac ar ôl y camau ar ‘leihau gwastraff’ gan gynnwys y fenter ‘siop dros dro’. Roedd effaith fesuradwy ar ymddygiad, agweddau, gwybodaeth a dealltwriaeth:

  • Ydy hi’n iawn i wisgo gwisg ysgol sydd wedi cael ei wisgo o’r blaen: Ydy 87% àYdy 100%
  • Ydych chi’n gwybod pan ydyn ni’n ceisio lleihau gwastraff o ddillad? Ydw 46% à Ydw 81%
  • Gwnaeth y disgyblion wella’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ble mae deunydd ar gyfer dillad yn dod a sut mae dillad yn cael eu gwneud.
  • Mae 100% o blant yn ymwybodol nawr fod ailddefnyddio gwisg ysgol yn gallu arbed arian a helpu’r amgylchedd.
  • Roedd dros 115 darn o wisg ysgol wedi’u hatal rhag mynd i safleoedd tirlenwi.
Pedwar dysgwr mewn gwisg las yn sefyll o flaen sgrin, un yn pwyntio at y sgrin.

Mae Siop dillad ysgol ‘dros dro’ yn syniad hynod gynaliadwy y dylai pawb roi cynnig arni!

Depindeer Blwyddyn 6 Eco-Bwyllgor

Mae’r syniad eco menter ail-garu gwych hwn wedi anfon neges bositif i’r ysgol a’r gymuned ehangach!

Mrs. Pascoe Prifathro
Oes stori gennych yr hoffech ei rhannu?

Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.

Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Saith cam i lwyddiant
Mae grŵp o ddysgwyr mewn festiau gwelededd uchel yn cerdded i fyny set o risiau, yn cario bagiau coch mawr yn casglu sbwriel.

Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.

Sut mae’n gweithio
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Forward 4 Fairyland

Darllen rhagor

Hyrwyddo Teithio Llesol yn Ysgol Stanwell

Darllen rhagor
Dau berson ifanc ar feiciau, un beic yn wyn a'r llall yn ddu a gwyrdd.

Grŵp Afonydd Caerdydd

Darllen rhagor
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13