English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Ailgylchu ac ailddefnyddio offer trydanol

Gwaredu’n gyfrifol ac yn ddiogel

Rydym ni’n helpu busnesau, ysgolion a sefydliadau eraill i gael gwared ar eu hoffer TG a thrydanol diangen yn gyfrifol.

Rydym ni’n gweithio gydag A&LH Environmental Services Ltd i sicrhau bod eitemau, lle bynnag y bo modd, yn cael eu hailgylchu ac nad ydynt yn mynd i safleoedd tirlenwi. Gyda’n gilydd, rydym ni’n darparu gwasanaeth ailgylchu trydanol diogel, sicr a fforddiadwy.

Mae cynllun ailgylchu trydanol Cadwch Gymru’n Daclus yn cael ei amlygu fel enghraifft o arfer da ar gyfer menter Gweithredu Hinsawdd Cymru Llywodraeth Cymru – gwyliwch y fideo yma:

Old unused washing machine outside waiting to be collected for recycling

Casgliadau ailgylchu WEEE

Gallwn drefnu casgliad Gwastraff Offer Trydanol ac Electronig (WEEE) gan sefydliadau ledled Cymru, a gyda’r gwaredu’n cael ei reoli gan ein partneriaid dibynadwy, gallwch fod yn dawel eich meddwl eich bod yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Rydym ni’n derbyn:

  • Llwybryddion; gweinyddion; cyfrifiaduron desg; tabledi; gliniaduron; monitorau
  • Taflunyddion; setiau teledu; offer gwyn; bylbiau fflworoleuol; byrddau gwyn ysgol
  • Rhywfaint o offer meddygol

Ni allwn dderbyn:

  • Dodrefn; batris sydd yn eich cartref; cetris argraffydd

I drefnu casgliad, cysylltwch â: recycling@keepwalestidy.cymru gyda’r wybodaeth ganlynol:

  • Disgrifiad o’r eitemau yr hoffech iddynt gael eu casglu (a’r pwysau os yn bosibl)
  • Eich lleoliad (a nodi a oes grisiau neu lifft yn yr adeilad)
  • Eich manylion cyswllt

Straeon llwyddiant

Mae pob partneriaeth gyda Cadwch Gymru’n Daclus yn unigryw.

Mae ein straeon llwyddiant yn dangos sut mae cwmnïau fel eich un chi wedi ffurfio partneriaeth gyda ni mewn ffordd ymarferol, ymgysylltiol, gyda ffocws ar greu gwahaniaeth parhaus gyda’n gilydd.

Ailgylchu Offer Trydanol: Prifysgol De Cymru

Darllen rhagor
Two people carrying boxes of unused computer equipment for recycling
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13