CYMERWCH GIP AR EIN RHAGLEN NEWYDD, ECO-TOTS CYMRU

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Caru CymruPolisi ac ymchwilSbwriel a gwastraff

Edrych yn fanylach ar sbwriel ar ochr y ffordd

Rhannu

Gyda mwy o gerbydau ar ein ffyrdd nag erioed o’r blaen a chynnydd sylweddol mewn bwyd a diod “wrth fynd”, mae sbwriel ar ochr y ffordd yn broblem gynyddol yng Nghymru. Mae ein ffordd o fyw cyflym yn golygu y gall gael ei ddiystyru yn aml, ond mae sbwriel ar ochr y ffordd yn wael i ni a’n hamgylchedd. Gall effeithio ar ein lles meddwl, ein hamgyffrediad o ddiogelwch a buddsoddiad economaidd, yn ogystal â niweidio bywyd gwyllt, blocio draeniau a llygru ein priddoedd, ein dyfrffyrdd a’n moroedd.

Ochr ffyrdd yn llawn sbwriel

Eleni, rydym wedi gallu defnyddio ein data sbwriel i ddarganfod faint o broblem yw sbwriel ar ochr y ffordd. Fe wnaethom edrych ar ddata arolwg sbwriel 2025 ar hyd ffyrdd A a B ledled Cymru ac fe wnaethom ganfod rhywbeth syfrdanol – roedd sbwriel yn bresennol ar 98.8% o’r ffyrdd hyn! Ond pam?

Esgus cyffredin am daflu sbwriel o gerbydau yw’r dymuniad i gadw’r cerbyd yn lân a chael gwared ar unrhyw wastraff drewllyd, ond mae cerbydau hefyd yn rhoi teimlad o anhysbysrwydd a diogelwch, sy’n golygu y gallai pobl ymddwyn yn wahanol y tu ôl i’r olwyn a gwneud pethau na fyddent yn eu gwneud fel arfer – fel taflu sbwriel! Hefyd, oherwydd iechyd a diogelwch, mae ochr ffyrdd yn arbennig o anodd a drud i’w glanhau. Mae angen cau lonydd yn aml er mwyn i weithwyr godi sbwriel yn ddiogel, a gall hyn gostio miloedd o bunnoedd am ychydig oriau yn unig.

Beth sy’n sbarduno sbwriel ar ochr y ffordd?

Yn ystod ein harolygon sbwriel ar ochr y ffordd, yr eitemau mwyaf cyffredin oedd rhai sy’n ymwneud â smygu, gyda bonion sigaréts yn unig yn rhoi cyfrif am ryw hanner yr holl sbwriel a ganfuwyd ar ffyrdd A a B. Roedd eitemau sbwriel cyffredin eraill yn cynnwys papurau melysion a siocled a sbwriel diodydd (fel caniau neu boteli), bob un yn rhoi cyfrif am 1 mewn 10 eitem. Fe wnaethom hefyd weld sbwriel bwyd brys yn aml, oedd yn rhoi cyfrif am ychydig dros 1 mewn 20 o eitemau.

Nid yw’n syndod bod yr holl eitemau sbwriel hyn wedi eu cynllunio i gael eu defnyddio’n hawdd wrth fynd ac yn aml yn cael eu gwerthu mewn deunydd pecynnu untro. Er ein bod yn gweld yr eitemau hyn mewn mannau eraill, fel wnaethom ganfod bod bonion sigaréts a sbwriel bwyd brys yn fwy tebygol o gael eu canfod ar ffyrdd A a B nag unrhyw le arall yr ydym yn ei arolygu, o 8.3 a 3.9 pwynt canran yn y drefn honno.

Troi sbwriel ar ochr y ffordd am yn ôl

Mae ein gwirfoddolwyr eisoes yn chwarae rhan enfawr yn clirio ein ffyrdd o sbwriel, gan symud bron 8,000 o fagiau o’n ffyrdd A a B yn y ddwy flynedd diwethaf yn unig. Mae ymyriadau bach fel biniau ceir neu focsys bonion yn ffyrdd fforddiadwy ac effeithiol o leihau taflu sbwriel o gerbydau am eu bod yn cadw’r cerbydau yn edrych yn lân ac yn aroglu’n ffres, ond rydym eisiau mynd i’r afael â’r mater ar raddfa fwy hefyd!

Mae ein maniffesto ar gyfer etholiad Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio deddfwriaeth i alluogi perchnogion cerbydau i fod yn gyfrifol am daflu sbwriel o’u cerbyd. Rydym hefyd yn cefnogi grwpiau sydd yn annog newidiadau yn y gyfraith i ganiatáu argraffu rhifau cofrestru cerbydau ar ddeunydd pecynnu bwyd brys drwy ffenest y car. Gyda’i gilydd, gallai’r newidiadau hyn weithredu fel rhwystrau a chryfhau pwerau gorfodi ledled Cymru.

Yn ffodus i ni, mae modd atal sbwriel ar ochr y ffordd a gall pob gyrrwr atal sbwriel ar ochr y ffordd trwy yrru eu sbwriel gartref.

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13