CYMERWCH GIP AR EIN RHAGLEN NEWYDD, ECO-TOTS CYMRU

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Caru CymruPolisi ac ymchwilSbwriel a gwastraff

Sbwriel wedi ei ganfod ar 99% o brif ffyrdd yng Nghymru

Rhannu

Mae data newydd gan brif elusen amgylcheddol Cymru yn dangos bod sbwriel yn bresennol ar bron pob prif ffordd yng Nghymru. 

Fe wnaeth arolygon gan Cadwch Gymru’n Daclus ganfod sbwriel ar 98.8% o ffyrdd A a B, gyda sbwriel smygu – bonion sigaréts yn bennaf – yn bresennol ar 88.1% o brif ffyrdd.  

Amlygodd y data hefyd effaith amgylcheddol bwyd a diod ‘wrth fynd’, gyda phapurau melysion, cynwysyddion diodydd a deunydd pecynnu bwyd brys ymysg y mathau mwyaf cyffredin o sbwriel ar hyd ochr ein ffyrdd. 

Mae arolygon a wnaed rhwng Ebrill a Rhagfyr 2025 yn datgelu bod:  

  • Deunydd pecynnu danteithion (melysion a siocled) yn bresennol ar 80.7% o brif ffyrdd. 
  • Sbwriel diodydd yn bresennol ar 72.1% o brif ffyrdd. 
  • Sbwriel bwyd brys yn bresennol ar 67% o brif ffyrdd.

Does dim esgus’

Rydym eisiau codi ymwybyddiaeth o effeithiau pellgyrhaeddol sbwriel ar ochr y ffordd – problem sydd yn bygwth bywyd gwyllt, yn llygru dyfrffyrdd, ac sy’n beryglus ac yn ddrud i’w lanhau.

Yn ei hanfod, Caru Cymru yw fy swydd ddisgrifiad, ond rydw i hyd yn oed yn teimlo embaras am gyflwr ochr ein ffyrdd. Does dim esgus dros daflu sbwriel o gerbyd. Mae’n ddiog, yn ddiangen, a gellir ei osgoi yn llwyr. Nid yw sbwriel ar ochr y ffordd yn broblem newydd, ond mae’r data diweddaraf hyn yn dangos pa mor gyffredin y mae erbyn hyn. Mae angen i bob modurwr gymryd cyfrifoldeb. Eich eiddo chi yw sbwriel yn eich cerbyd. Gyrrwch ef adref a’i waredu’n gywir.

Owen Derbyshire Prif Weithreddwr Cadwch Gymru’n Daclus

‘Gyrrwch Eich Sbwriel Adref’

Nod ein hymgyrch newydd, wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yw argyhoeddi modurwyr ‘Gyrrwch eich sbwriel adref’.  

Dyma sut y gallwch gymryd rhan:  

  1. Byddwch yn fodurwr cyfrifol – gyrrwch eich sbwriel adref a’i waredu yn y ffordd gywir. 
  2. Tagiwch ni ar eich teithiau cyfrifol ar y ffyrdd – #gyrrwcheichsbwrieladref @keepwalestidy 
  3. Helpwch ni i roi’r gair ar led! Ewch i’n Brandbag i lawrlwytho deunyddiau’r ymgyrch am ddim, gan gynnwys graffeg a phosteri’r cyfryngau cymdeithasol. 
Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13