Mae ailgylchu ac ailddefnyddio effeithlon wrth wraidd ethos Cadwch Gymru’n Daclus, felly nid yw’n syndod ein bod yn cynnal cynllun casglu i gwmnïau waredu eu hoffer trydanol diangen mewn ffordd gyfrifol a chynaliadwy.
Mae’r cynllun hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Gwasanaethau Amgylcheddol A&LH yn y Barri yn Ne Cymru. Bydd A&LH yn cydlynu â phobl i gasglu eu hoffer diangen mewn un gwasanaeth hawdd ei drefnu, er mwyn naill ai eu hadnewyddu, eu hailgylchu neu eu gwaredu.
Mae’r cynllun ailgylchu arloesol nid yn unig yn dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi ac yn ailddefnyddio eitemau lle bo modd, ond mae hefyd yn rhoi cyfran o unrhyw elw a godir i Cadwch Gymru’n Daclus, sydd wedyn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ein gwaith hollbwysig gyda gwirfoddolwyr lleol a grwpiau cymunedol i wella eu hamgylchedd.
Ers i’r fenter ailgylchu TG ddechrau dros 15 mlynedd yn ôl, mae Cadwch Gymru’n Daclus a Gwasanaethau Amgylcheddol A&LH wedi ailgylchu dros 1 miliwn kg o offer TGCh – ystadegyn rydyn ni’n falch iawn ohono!
Yn 2024, roedd Prifysgol De Cymru yn chwilio am gontractiwr Gwastraff Offer Trydanol ac Electronig (WEEE) newydd.
Ar ôl clywed am ein cynllun, fe benderfynon nhw newid cyflenwyr oherwydd:
- Bod y gwaith prosesu yn cael ei wneud yng Nghymru
- Mae’n cefnogi cwmni casglu gwastraff sy’n fusnes bach a chanolig, yn ogystal ag economi Cymru
- Mae’n blaenoriaethu ailddefnyddio lle bo’n bosibl cyn ailgylchu
- Mae ganddo broses dileu data ddiogel o’r radd flaenaf
- Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn derbyn cyfraniad ariannol i gefnogi eu gwaith amgylcheddol
- Mae’n gyflym, yn effeithlon ac yn effeithiol o ran cost.
Cyn 2024, gweithiodd Prifysgol De Cymru gyda darparwr Gwastraff Offer Trydanol ac Electronig (WEEE) y tu allan i Gymru. Er bod y darparwr wedi bodloni ein gofynion cydymffurfio sylfaenol, parhaodd sawl her weithredol. Arweiniodd cludo deunyddiau dros bellter hir at gostau casglu uchel, amseroedd aros estynedig, ac effaith gynyddol ar yr amgylchedd nad oedd yn gydnaws â'n blaenoriaethau cynaliadwyedd.
Ym mis Mehefin 2024, fe wnaethon ni ddechrau partneriaeth newydd gyda Cadwch Gymru’n Daclus, ac roedden ni’n arbennig o awyddus i weithio gyda darparwr y mae ei werthoedd yn gydnaws â’n hymrwymiadau cynaliadwyedd a’n huchelgeisiau hirdymor ein hunain. Roedd pwyslais Cadwch Gymru’n Daclus ar atebion lleol, egwyddorion yr economi gylchol, ac ymgysylltiad cymunedol yn eu gwneud yn addas.
Rydyn ni wrth ein bodd gyda'r gwasanaeth hyd yn hyn ac yn edrych ymlaen at barhau i dyfu'r bartneriaeth hon yn y blynyddoedd i ddod.
Danielle Booy-Pinker Rheolwr Cyfleusterau Cynorthwyol, Prifysgol De Cymru
Diogelu'r amgylchedd nawr ac ar gyfer y dyfodol yw hanfod Cadwch Gymru’n Daclus. Os gallwn ni gymryd deunyddiau o ansawdd da a dod o hyd i ffordd o'u haddasu neu eu hailddefnyddio, mae'n fuddiol i fusnesau, yr amgylchedd a'r economi, sy'n fuddugoliaeth go iawn i bawb.
Louise Tambini Dirprwy Brif Weithredwr, Cadwch Gymru’n Daclus
Yr effaith ar Cadwch Gymru’n Daclus
Mae’r bartneriaeth yn bwysig iawn i Cadwch Gymru’n Daclus nid yn unig oherwydd ein bod yn derbyn refeniw i gefnogi ein gwaith, ond hefyd oherwydd ei bod yn cefnogi sefydliadau i waredu’r gwastraff trydanol yn ddiogel ac yn saff.
Yn syml, mae’n meithrin partneriaethau newydd tra hefyd yn cynhyrchu incwm anghyfyngedig gwerthfawr i’r elusen.
O fis Ebrill i fis Rhagfyr 2025, cafodd 348 o hen asedau trydanol eu hailgylchu’n llwyddiannus ym Mhrifysgol De Cymru, gan godi dros £3,000 ar gyfer Cadwch Gymru’n Daclus.
Yr effaith ar Brifysgol De Cymru
Yn ei thro, roedd y bartneriaeth yn llwyddiant mawr i Brifysgol De Cymru am sawl rheswm:
- Mae wedi gwella dibynadwyedd – mae casgliadau wedi bod yn effeithlon, yn gyson, ac yn syml
- Drwy ddileu cludiant dros bellter hir, mae Prifysgol De Cymru wedi cyflawni arbedion amlwg mewn ffioedd casglu a chostau gweithredol anuniongyrchol
- Mae wedi gwella cynaliadwyedd drwy weithio gyda darparwr lleol o Gymru sydd wedi lleihau allyriadau carbon, cefnogi economi gylchol Cymru, a chryfhau aliniad Prifysgol De Cymru â’u nodau cynaliadwyedd.
- Y cyfle i Brifysgol De Cymru feithrin cysylltiadau agosach â’u cymunedau lleol, gan gynnwys digwyddiadau casglu sbwriel, cyfleoedd gwirfoddoli cymunedol a chydweithio amgylcheddol ehangach – budd annisgwyl sydd wedi dod yn wirioneddol bwysig iddyn nhw.
Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill
Pwyllgor Hinsawdd Ysgol Bro Banw
Darllen rhagor
Prosiect Innovate, Caerffili
Darllen rhagor
Ysgol Y Cymer, Rhondda Cynon Taf
Darllen rhagor








