JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
I fusnesauSbwriel a gwastraff

Noddi Hybiau Sbwriel gan McDonald’s

Rhannu

Mae gan Cadwch Gymru’n Daclus rwydwaith o hybiau casglu sbwriel cymunedol ledled Cymru sy’n darparu offer, arweiniad ac yswiriant am ddim i unrhyw un sydd eisiau cynnal sesiwn casglu sbwriel yn eu hardal. Mae busnesau, ysgolion, unigolion, grwpiau cymunedol a mudiadau eraill yn defnyddio hybiau’n rheolaidd, gan fenthyg y deunyddiau er mwyn iddyn nhw gynnal sesiwn casglu sbwriel yn ddiogel. Er bod yr hybiau yn adnodd cymunedol gwych, sy’n galluogi miloedd o bobl i gymryd rhan heb unrhyw gost iddyn nhw eu hunain, mae angen cymorth ariannol sylweddol arnyn nhw i’w sefydlu a’u cynnal.

A dyma lle daeth McDonald’s yn rhan o’r stori.

Yn 2024, fe wnaeth McDonald’s noddi 22 o hybiau Cadwch Gymru’n Daclus am y flwyddyn. Fe wnaeth y cymorth ariannol hanfodol hwn ein galluogi i gefnogi 17 o hybiau. Darparodd yr arian nawdd y canlynol:

  • Canllawiau a chyngor rheolaidd i reolwyr a staff yr hybiau
  • Hyfforddiant i reolwyr yr hybiau (ar bynciau fel systemau riportio, iechyd a diogelwch a chasgliadau gwastraff)
  • Yswiriant ar gyfer sesiynau casglu sbwriel gwirfoddol
  • Darparu’r bagiau bin coch eiconig
  • Cymorth i hyrwyddo’r hybiau

Yn ogystal, galluogodd Cadwch Gymru’n Daclus i sefydlu pum hyb casglu sbwriel cymunedol newydd mewn lleoliadau newydd.

Cafodd hybiau cymunedol cyfredol eu mapio ac yna eu ‘gefeillio’ â bwyty McDonalds lleol. Lansiwyd y partneriaethau hyn gyda sesiwn casglu sbwriel cymunedol lleol gyda phob hyb a bwyty McDonald’s ‘sy’n noddi’ yn cyhoeddi’r bartneriaeth gyda’i gilydd. Sonnir am rôl McDonald’s hefyd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus, a dangoswyd hybiau a noddwyd ar ein map Hybiau Casglu Sbwriel rhyngweithiol.

Yn McDonald’s, rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn gymydog da yn y cymunedau lle rydyn ni’n gweithredu, ac mae helpu i gadw ardaloedd lleol yn lân ac yn groesawgar yn rhan allweddol o hynny. Rydyn ni’n falch o gefnogi Cadwch Gymru’n Daclus a’u rhwydwaith gwych o hybiau casglu sbwriel cymunedol, sy'n grymuso pobl ledled Cymru i weithredu yn eu hardaloedd lleol. Drwy'r bartneriaeth hon, mae ein bwytai wedi gallu gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i wneud gwahaniaeth gweladwy a phositif y tu hwnt i ffiniau ein bwytai. Rydyn ni’n ymfalchïo'n fawr wrth chwarae ein rhan i helpu i gadw cymunedau'n daclus ac i ofalu amdanyn nhw, ac edrychwn ymlaen at barhau â'n partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus i wneud gwahaniaeth positif ledled Cymru.

McDonald's

A oedd y prosiect werth ei wneud?

Cynhaliwyd cyfanswm o 156 o sesiynau casglu sbwriel gan yr hybiau a noddwyd, gan gynnwys 1,290 o bobl a chafwyd gwared ar 1,365 o fagiau o sbwriel o amgylchedd Cymru.

Roedd y nawdd hwn yn bwysig dros ben wrth alluogi Cadwch Gymru’n Daclus i barhau â’r cymorth hollbwysig maen nhw’n ei roi i gymunedau lleol drwy ddarparu’r hybiau hyn. Galluogodd yr arian nid yn unig i ail-stocio’r Hybiau cyfredol gydag offer a bagiau bin, ond rhoddodd gyfle hefyd i ni brynu offer ar gyfer yr Hybiau newydd.

Mae ein rhwydwaith o Hybiau Casglu Sbwriel yn adnodd hollbwysig yn y frwydr yn erbyn sbwriel, gan hwyluso miloedd o sesiynau casglu sbwriel bob blwyddyn, yn enwedig ar gyfer grwpiau, ysgolion a chwmnïau nad oes ganddyn nhw eu hoffer eu hunain neu sydd angen mwy ar gyfer digwyddiadau mwy o faint. Helpodd nawdd McDonald’s ni i gynnal ein rhwydwaith o Hybiau Casglu Sbwriel a’r gwaith hanfodol mae’n ei alluogi.

Roedd y bartneriaeth hefyd yn llwyddiant i McDonald’s, gan roi ffocws iddyn nhw i dynnu sylw at eu hymrwymiad i weithredu dros sbwriel yn lleol ac i roi cyfle perffaith i fwytai gymryd rhan gyda gwirfoddolwyr mewn sesiynau casglu sbwriel, ac i feithrin perthnasoedd positif.

Mentrodd y sesiynau casglu sbwriel hyn i’r gymuned ehangach, fel arfer i fannau cyhoeddus nad ydyn nhw’n cael eu clirio’n rheolaidd gan staff McDonald’s. Cafodd hyn groeso mawr gan drigolion lleol sy’n aml yn beio McDonald’s am broblemau sbwriel yn eu hardal nhw.

Roedd gwirfoddolwyr lleol hefyd yn teimlo’r budd ac yn gwerthfawrogi staff McDonald’s yn cefnogi’r digwyddiadau casglu sbwriel. Roedd y lluniaeth am ddim a roddwyd gan rai bwytai yn arbennig o boblogaidd!

Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur

Darllen rhagor
Mae chwech o bobl yn edrych dros flwch planhigion pren o flaen ffens las.

Y Prosiect TAITH

Darllen rhagor
Map o'r ddaear, mae'r tir yn wyn a'r dŵr yn las.

Ysgol Bassaleg

Darllen rhagor
Buwch goch gota ar blanhigyn yn agos i fyny
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13