Dyma gwrs hyfforddiant ardystiedig i Addysgwyr ar unrhyw lefel.
Rydym wedi ymestyn ein hyfforddiant Newid Hinsawdd i Addysgwyr er mwyn ei wneud yn gwrs ardystiedig. Bydd y cwrs yn rhoi’r wybodaeth i chi ddeall achosion ac effeithiau newid hinsawdd yn ogystal â ffyrdd i gymryd camau gweithredu cadarnhaol. Byddwn yn edrych ar beth sy’n digwydd yn lleol yng Nghymru ac yn fyd-eang i fynd i’r afael â’r achosion ac ymdrin â’r syniadau gwyddonol diweddaraf. Byddwn yn cynnwys gweithgareddau, adnoddau a sgiliau i’ch helpu i ddysgu rhai o’r wyddoniaeth a’r cysyniadau i ddisgyblion a’u hannog i gymryd camau gweithredu cadarnhaol.
Mae’r hyfforddiant wedi’i ardystio gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Carbon, felly drwy gwblhau’r cwrs byddwch chi’n cael eich ardystio’n Garbon Llythrennog.
Bydd y cwrs yn rhedeg am ddwy sesiwn 3 awr ar-lein ac mae angen i chi wneud rhywfaint o waith ar eich liwt eich hun rhwng y sesiynau er mwyn cwblhau tuag wyth awr o ddysgu.
Telir y gost ar gyfer ardystio ac mae’r cwrs yn rhad ac am ddim i’w fynychu.
Pwysig:
Sylwch mai’r dewis isod yw dyddiad eich sesiwn gyntaf. Mae gan bob sesiwn ail sesiwn sy’n cydfynd, gyda dyddiad penodol. Pan fyddwch chi’n dewis eich sesiwn gyntaf rydych chi hefyd yn ymrwymo i’r sesiwn sy’n cyd-fynd â hi.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Ar-lein
Cofrestrwch eich ysgol gydag Eco-Sgolion Cymru a dechreuwch eich taith gynaliadwyedd.
Darganfod mwyMae ein holl Eco-Sgolion yn gweithio drwy saith cam. Ar ôl i ysgol roi hyn ar waith a chasglu tystiolaeth o’i chynnydd, mae’n gallu gwneud cais am wobr Eco-Sgolion.
Sut mae'n gweithio







