Ydych chi’n gwybod ein bod wedi colli bron â 97% o’n dolydd blodeuog ers y 1930au? Mae hyn yn golygu bod ffynonellau bwyd hanfodol ar gyfer gwenyn, gloÿnnod a pheillwyr eraill yn diflannu!
Ond mae iard eich ysgol yn gallu helpu!
Dysgwch eich myfyrwyr am bwysigrwydd blodau gwyllt yn y gweithdy rhithiol, rhyngweithiol hwn. Bydd y gweithdy yn cael ei ffrydio i’ch ystafell ddosbarth a bydd dysgwyr yn:
- Darganfod pam fod blodau gwyllt yn hanfodol ar gyfer ecosystem iach.
- Archwilio camau syml mae pawb yn gallu eu cymryd i wneud effaith amgylcheddol gadarnhaol.
- Cysylltu ag amcanion rhaglen Eco-Sgolion drwy weithgareddau ysgogol.
Mae’r sesiwn hwylus ac addysgiadol yn berffaith ar gyfer cyfrannu at effeithiau cynaliadwy eich ysgol ac yn ysgogi eich dysgwyr ifanc i ymgysylltu â Mai Di Dor.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Ar-lein

Gallwch ganfod sut mae ysgolion yn eich ardal chi’n ei wneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.
Darganfod mwy
Mae'r her arloesi ysgol hon yn gwahodd dysgwyr 5–18 oed i arddangos syniadau ar gyfer planed well.
Darganfod mwy







