Cynigir y sesiwn hwyrnos yma i holl Gydlynwyr Eco o ysgolion sydd eisoes wedi ennill gwobr Platinwm Eco-Sgolion. Bydd y sesiwn yn cynnig cefnogaeth a/neu sicrwydd ynghylch y broses o adnewyddu’r wobr Platinwm.
Os ydych angen adnewyddu eich gwobr Blatinwm yn ystod y flwyddyn academaidd yma neu yn newydd i’r rôl fel cydlynnydd Eco Sgolion mewn ysgol Blatinwm, mae na gefogaeth ar gael.
Mae na gyflle i chi ymuno gyda ni am sesiwn hyfforddiant ar lein er mwyn eich cefnogi gyda’r broses. Hefyd byddwn yn trafod ysgrifennu astudiaeth achos ac yn gweld enghreifftiau o astudiaethau achos gwych ‘rydym wedi derbyn dros blynyddoedd blaenorol.
Dydd Mawrth 10 Tachwedd: 3.30 – 4.15 y.p. (Cymraeg)
Dydd Iau 12 Tachwedd: 3.30 – 4.15 y.p. (Saesneg)
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Ar-lein
Cofrestrwch eich ysgol gydag Eco-Sgolion Cymru a dechreuwch eich taith gynaliadwyedd.
Darganfod mwyMae ein holl Eco-Sgolion yn gweithio drwy saith cam. Ar ôl i ysgol roi hyn ar waith a chasglu tystiolaeth o’i chynnydd, mae’n gallu gwneud cais am wobr Eco-Sgolion.
Sut mae'n gweithio







