Cynhadledd i bobl ifanc Blynyddoedd 10-13 sy’n angerddol o blaid creu dyfodol cynaliadwy ac arwain y newid yn eu hysgol.
Ydych chi’n barod i wneud rhywbeth mwy na siarad yn unig am yr hinsawdd? Hoffai Eco-Sgolion Cymru, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor eich gwahodd i’r ‘Gynhadledd Ein Daear; Ein Dyfodol’.
Bydd y gynhadledd yn cael ei hysbrydoli gan bobl ifanc o bob cwr o Gymru sy’n frwd dros newid, er mwyn ysbrydoli a grymuso cyfranogwyr i greu newid cynaliadwy yn eu hysgol. Bydd dysgwyr hefyd yn cael cipolwg gwerthfawr ar gyfleoedd gwaith sy’n dod i’r amlwg mewn swyddi gwyrdd.
Bydd y siaradwyr, ynghyd â’r gweithdai, yn arfogi dysgwyr â’r offer, y syniadau a’r hyder i gyflawni newid yn eu hysgol a’u cymuned.
Bydd y bore yn canolbwyntio ar 5 thema:
- Adfywio ac Adfer Natur
- Glanhau Ein Haer
- Adfywio Ein Cefnforoedd
- Adeiladu Byd Diwastraff
- Trwsio Ein Hinsawdd
Yn y prynhawn, rydym yn ystyried ‘swyddi gwyrdd’ – beth ydyn nhw a pha fath o ddewisiadau gyrfaoedd allai ein harwain at ‘swydd werdd’? Bydd hyn yn cynnwys digwyddiad panel gyda siaradwyr o ystod eang o sectorau.
Rydym yn annog ysgolion i ddod â hyd at 10 o ddysgwyr i’r digwyddiad.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Abertawe a Bangor

Gallwch ganfod sut mae ysgolion yn eich ardal chi’n ei wneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.
Darganfod mwy
Mae'r her arloesi ysgol hon yn gwahodd dysgwyr 5–18 oed i arddangos syniadau ar gyfer planed well.
Darganfod mwy







